Gweld neu rannu eich gwybodaeth trwydded yrru
Gallwch weld neu rannu eich gwybodaeth trwydded yrru os cyhoeddwyd eich trwydded yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.
Mae’n drosedd i gael gwybodaeth bersonol rhywun arall heb ei ganiatâd.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i:
- weld eich cofnod gyrru, er enghraifft y cerbydau y gallwch eu gyrru
- gwirio eich pwyntiau cosb neu waharddiadau
- creu ‘cod gwirio’ trwydded i rannu eich cofnod gyrru gyda rhywun, er enghraifft cwmni llogi car
Bydd y cod gwirio yn ddilys am 21 diwrnod.
Cyn ichi ddechrau
Bydd arnoch angen:
- eich rhif trwydded yrru
- eich rhif Yswiriant Gwladol - dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol os ydych wedi’i golli
- y cod post ar eich trwydded yrru
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Ffyrdd eraill o wneud cais
Gallwch hefyd gael ‘cod gwirio’ trwydded:
- drwy eich cyfrif gyrwyr a cherbydau
- dros y ffôn
Canolfan Gyswllt DVLA
0300 083 0013
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7pm
Dydd Sadwrn, 8am i 2pm
Cael gwybod mwy am gost galwadau