Cymorth ariannol os ydych yn anabl
Rhyddhad TAW ar gyfer pobl anabl
Os ydych yn anabl neu os oes gennych salwch hirdymor, ni chodir tâl ar TAW ar gynhyrchion sydd wedi’u dylunio neu eu haddasu ar gyfer eich defnydd personol neu ddomestig eich hun. Hefyd, ni chodir TAW arnoch ar:
- y gosodiad ac unrhyw waith ychwanegol sydd ei angen fel rhan o hyn
- atgyweirio neu gynnal a chadw
- rhannau sbâr neu ategolion
Rhaid i’r cynnyrch a’ch anabledd fod yn gymwys.
Cynhyrchion neu wasanaethau cymwys
Gall eich cyflenwr ddweud wrthych, ond fel rheol mae cynhyrchion wedi’u dylunio neu eu haddasu ar gyfer anabledd yn gymwys. Er enghraifft, mae rhai mathau o:
- gwelyau addasadwy
- lifftiau grisiau
- cadeiriau olwyn
- cyfarpar meddygol i helpu gydag anafiadau difrifol
- larymau
- papur braille neu gymhorthion gweledol - ond nid spectol na lensys cyffwrdd
- cerbydau modur - neu brydlesu cerbyd motability
- gwaith adeiladu fel rampiau, lledu drysau, gosod lifft neu doiled
Sut i gael y cynnyrch heb dalu TAW
I gael y cynnyrch heb dalu TAW, mae’n rhaid i’ch anabledd fod yn gymwys. At ddibenion TAW, rydych yn anabl neu os oes gennych salwch hirdymor os:
- mae gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n effeithio ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd, er enghraifft, rydych yn ddall
- mae gennych gyflwr sy’n cael ei drin fel salwch cronig, fel clefyd siwgr
- rydych yn derfynol wael
Nid ydych yn gymwys os ydych yn oedrannus ond yn gorfforol abl, neu os ydych yn anabl dros dro.
Bydd angen i chi gadarnhau yn ysgrifenedig eich bod yn bodloni’r amodau hyn. Efallai y bydd eich cyflenwr yn rhoi ffurflen i chi am hyn.
Cymorth gan eich cyngor
Gallwch wneud cais i’ch cyngor am offer neu gymorth i addasu’ch cartref os oes gennych anabledd.
Mewnforio nwyddau
Nid ydych yn talu TAW os ydych yn mewnforio nwyddau cymwys sydd ar gyfer eich defnydd personol neu ddomestig eich hun. Mae hyn yn cynnwys nwyddau penodol ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall.
Os ydych yn defnyddio gwasanaeth cludo nwyddau, gallant eich helpu gyda’r gwaith papur, neu gwnewch yn siŵr fod y canlynol wedi ei ysgrifennu ar y parsel, ‘Nwyddau i bobl anabl: cais am rhyddhad’.
Os ydych yn dod â nhw i mewn eich hun, rhaid eu datgan yn y sianel goch yn y Tollau. Am unrhyw ddull arall o fewnforio, cysylltwch â’r Uned Gostyngiadau Mewnforio Cenedlaethol.