Help i dalu am ofal plant
Credyd Cynhwysol a gofal plant
Efallai y byddwch yn gallu hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant yn ôl os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Fel arfer, bydd angen i chi (a’ch partner os ydych yn byw gydag ef) naill ai:
- bod yn gweithio - does dim ots faint o oriau rydych chi neu eich partner yn eu gweithio
- bod â chynnig swydd
Faint y byddwch yn ei gael
Y mwyaf y gallwch ei gael yn ôl bob mis yw:
- £1,014.63 ar gyfer un plentyn
- £1,739.37 ar gyfer 2 neu fwy o blant
Gallwch hawlio Credyd Cynhwysol ar-lein.
Os ydych yn rhoi’r gorau i weithio
Os byddwch yn rhoi’r gorau i weithio, mae’n rhaid i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol.