Help i dalu am ofal plant
15 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim i blant 3 a 4 oed
Gall pob plentyn 3 i 4 oed yn Lloegr gael 570 awr y flwyddyn yn rhad ac am ddim. Fel arfer, mae 15 awr yn cael eu cymryd bob wythnos dros 38 wythnos y flwyddyn. Gallwch ddewis cymryd llai o oriau dros fwy o wythnosau, os yw’ch darparwr gofal plant yn cynnig yr opsiwn hwn.
Mae rhai plant 3 i 4 oed yn gymwys i gael 30 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim bob wythnos. Edrychwch i weld a ydych yn gymwys a chael gwybod sut i wneud cais (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’r addysg gynnar a gofal plant yn rhad ac am ddim:
- yn gorfod bod gyda darparwr gofal plant cymeradwy
- yn dod i ben pan fydd eich plentyn yn dechrau yn y dosbarth derbyn (neu’n cyrraedd oedran ysgol gorfodol, os yw’n hwyrach)
Gallwch ei gael o’r tymor ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 3 oed, gan ddechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Medi.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gostau ychwanegol megis:
- prydau bwyd
- cewynnau
- oriau ychwanegol
- gweithgareddau ychwanegol, megis teithiau
Holwch eich darparwr pa gostau ychwanegol bydd yn rhaid i chi eu talu.
Cysylltwch â’ch darparwr gofal plant neu eich cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod mwy.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.