Hysbysu twyll budd-daliadau
Hysbysu am rywun rydych yn credu sy’n cyflawni twyll budd-daliadau.
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Rhowch cyn gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y person rydych yn hysbysu amdanynt. Gallai hyn gynnwys:
- eu henw
- eu cyfeiriad
- y math o dwyll rydych yn credu maent yn ei gyflawni
Gallwch wneud hysbysiad yn anhysbys - nid oes angen i chi roi eich enw neu fanylion cyswllt os nad ydych yn dymuno.
Mae yna wahanol ffyrdd o roi gwybod am dwyll yn erbyn budd-daliadau a thaliadau a wneir gan Nawdd Cymdeithasol yr Alban
Beth mae angen i chi wybod
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi hysbysu am rywun
Bydd Gwasanaeth Twyll a Gwallau yr Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych ar y wybodaeth a roddwch. Ni fyddant yn gallu dweud wrthych beth fydd canlyniad eu hymchwiliad.
Bydd y Gwasanaeth Twyll a Gwallau ond yn gweithredu os ydynt yn darganfod bod y person wedi cyflawni twyll budd-daliadau. Gall camau gynnwys diddymu budd-daliadau unigolyn a mynd â hwy i’r llys.
Weithiau ni fydd unrhyw gamau yn cael eu cymryd. Efallai byddai’r person wedi datgan newid yn eu hamgylchiadau neu efallai na chaiff eu budd-dal ei effeithio gan yr hyn rydych yn ei hysbysu.
Ffyrdd eraill o hysbysu am rywun
Gallwch hefyd hysbysu twyll budd-daliadau dros y ffôn neu drwy’r post.
Llinell Frys Twyll Budd-daliadau Cenedlaethol (NBFH)
Ffôn: 0800 678 3722
Ffôn testun: 0800 328 0512
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 854 440
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
National Benefit Fraud Hotline
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2BP
Rhoi gwybod am dwyll budd-daliadau yng Ngogledd Iwerddon dros y ffôn
Gallwch ddefnyddio Llinell Gymorth Twyll Budd-daliadau Gogledd Iwerddon i roi gwybod am bobl sy’n: - byw yng Ngogledd Iwerddon - byw yn rhywle arall ond eich bod yn meddwl eu bod yn cyflawni twyll budd-daliadau yn erbyn budd-daliadau a thaliadau a wneir gan yr Adran Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon
Llinell Gymorth Twyll Budd-daliadau Gogledd Iwerddon
Ffôn: 0800 975 6050
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Cynllun Pensiwn Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
Rhoi gwybod am dwyll budd-dal y Cynllun Pensiwn Rhyfel neu gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog i dîm Twyll y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Gallwch wneud adroddiad yn ddienw - nid oes rhaid i chi roi eich enw na’ch manylion cyswllt oni bai eich bod am wneud hynny.
Gallwch roi gwybod am dwyll y Cynllun Pensiwn Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog dros y ffôn neu drwy’r post.
Hysbysu am rywun sy’n byw yn Sbaen
Defnyddiwch y rhifau lleol os ydych yn ffonio o Sbaen neu Bortiwgal.
Llinell Gymorth Twyll Sbaen
Ffôn: 900 55 44 40
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4pm amser lleol (GMT +2)
Darganfyddwch am gostau galwadau