Cael llyfr log cerbyd (V5CW)
Os na allwch gael llyfr log (V5CW) ar-lein
Mae ffyrdd eraill o gael llyfr log (V5CW) newydd os:
Dylech wneud cais drwy’r post os oes angen ichi newid manylion y cerbyd.
Byddwch yn derbyn eich V5CW o fewn 4 wythnos fel arfer os ydych yn gwneud cais drwy’r post.
Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ac mae wedi bod yn 4 wythnos ers ichi wneud cais.
Os nad ydych wedi derbyn eich V5CW ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi rhoi gwybod i DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un amnewid.
Gwneud cais drwy’r post am V5CW amnewid
-
Lawrlwytho a llenwi cais am V5CW (ffurflen V62W).
-
Anfon i DVLA gyda siec neu archeb bost am £25 yn daladwy i ‘DVLA, Abertawe’.
DVLA
Abertawe
SA99 1DD
Os na chawsoch V5CW am eich cerbyd newydd
-
Lawrlwytho a llenwi cais am V5CW (ffurflen V62W).
-
Anfon i DVLA gyda’r slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd a roddwyd ichi gan y gwerthwr.
Mae angen i’r slip ceidwad newydd fod o’r V5CW ddiweddaraf. Gwiriwch fod y dyddiad ar y slip yn cyfateb i’r dyddiad cyhoeddi V5CW olaf ar y gwasanaeth ymholiad cerbyd os nad ydych yn siŵr.
Os nad ydych yn anfon y slip ceidwad newydd o’r V5CW ddiweddaraf, bydd rhaid ichi dalu £25. Bydd angen cynnwys siec neu archeb bost yn daladwy i ‘DVLA, Abertawe’.
DVLA
Abertawe
SA99 1DD
Os nad oes gennych V5CW ac rydych wedi cymryd eich cerbyd y tu allan i’r DU
Cysylltwch ag awdurdod gyrru’r wlad rydych wedi cymryd y cerbyd iddi. Byddant yn dweud wrthych sut i gofrestru’r cerbyd heb V5CW.
Anfonwch lythyr i DVLA i roi gwybod iddynt eich bod wedi cymryd y cerbyd y tu allan i’r wlad. Bydd angen cynnwys:
- eich enw a chyfeiriad
- y dyddiad roeddech wedi cymryd y cerbyd y tu allan i’r wlad
- ble mae DVLA yn gallu anfon yr ad-daliad treth cerbyd os oes gennych hawl i un
DVLA
Abertawe
SA99 1DD
Os oes angen ichi drethu’ch cerbyd hefyd
Efallai y byddwch yn gallu trethu’ch cerbyd yn Swyddfa’r Post a gwneud cais am V5CW ar yr un pryd.
-
Cwblhau cais am V5CW (ffurflen V62W).
-
Cymryd y ffurflen wedi’i chwblhau a £25 i gangen sy’n delio â threth cerbyd.
Gwiriwch a yw’r gangen y Swyddfa’r Post yn cynnig y gwasanaeth hwn cyn ichi deithio.