Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
Eich cyfweliad JSA
Os ydych yn cael eich gwahodd i gyfweliad, rhaid i chi fynychu. Bydd yn cael ei gynnal yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol.
Gofynnir rhai cwestiynau i chi i gadarnhau eich hunaniaeth ac yna byddwch yn dod i gytundeb ynghylch pa gamau y byddwch yn eu cymryd i chwilio am waith.
Dogfennau sydd angen arnoch yn y cyfweliad
Bydd angen i chi ddod â’r canlynol i gyd:
- un darn o dystiolaeth hunaniaeth ffotograffig
- un darn o dystiolaeth o’ch cyfeiriad
- un darn o dystiolaeth bellach o’ch hunaniaeth
Os oes gennych P45 o’ch cyflogwr, dewch â hwn gyda chi i’r cyfweliad. Pan fyddwch yn ei gyflwyno, dywedwch wrth eich anogwr gwaith os ydych eisoes wedi derbyn neu hawlio ad-daliad treth gan CThEF ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol.
Gallwch hefyd ddefnyddio eich P45 fel eich prawf pellach o hunaniaeth.
Tystiolaeth hunaniaeth ffotograffig
Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- pasbort dilys
- trwydded gyrru
- trwydded breswyl biometrig (BRP) neu eVisa
- tystysgrif brodori fel dinesydd Prydeinig
- trwydded preswylio parhaol
Tystiolaeth o’ch cyfeiriad
Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- slip cyflog neu ddatganiad pensiwn wedi’i dyddio o fewn y 6 mis diwethaf
- bil cyfleustodau wedi’i dyddio o fewn y 6 mis diwethaf
- bil Treth Cyngor wedi’i dyddio o fewn y 6 mis diwethaf
- dogfennau benthyciad myfyriwr
Tystiolaeth pellach o’ch hunaniaeth
Mae enghreifftiau’n cynnwys eich:
- P60
- llyfr cyfrif cynilo
- llyfr siec personol
- cerdyn debyd, credyd neu siop gyda datganiad yn cadarnhau manylion y cerdyn
Gall biliau cyfleustodau cael eu defnyddio am dystiolaeth o’ch cyfeiriad a thystiolaeth bellach o’ch hunaniaeth os ydyn nhw o ddarparwyr gwahanol.
Darllenwch restr lawn y dogfennau gallwch ddod i’r cyfweliad
Cymorth yn eich cyfweliad
Gallwch gymryd rhywun gyda chi i’ch cyfweliad JSA.
Cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith cyn y cyfweliad os oes angen:
-
cymorth arnoch oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd (er enghraifft, rydych yn fyddar ac angen dehonglwyr iaith arwyddion).
-
cyfieithydd ar y pryd iaith tramor ac nad oes gennych rywun a all eich helpu gyda chyfieithu.
Llofnodi cytundeb i chwilio am waith (‘Ymrwymiad Hawlydd’)
Yn eich cyfweliad JSA, mae’n rhaid i chi lofnodi cytundeb am ba gamau byddwch yn cymryd i chwilio am waith. Gelwir hwn yn ‘Ymrwymiad Hawlydd’.
Byddwch chi a’ch anogwr gwaith yn cytuno ar beth sydd yn mynd yn eich Ymrwymiad Hawlydd. Gall hwn cynnwys:
- beth mae’n rhaid i chi ei wneud i chwilio am waith – er enghraifft cofrestru gydag asiantaethau recriwtio, ysgrifennu CV
- faint o oriau mae’n rhaid i chi wario yn chwilio am swydd bob wythnos
Mae beth fyddwch yn cytuno i wneud yn dibynnu ar bethau fel:
- eich iechyd
- eich cyfrifoldebau cartref
- faint o help sydd angen arnoch i weithio neu gynyddu’ch incwm
Efallai y caiff eich JSA ei leihau neu ei stopio os nad ydych yn gwneud beth rydych wedi cytuno i’w wneud yn eich Ymrwymiad Hawlydd a methu rhoi rheswm da
Ar ôl eich cyfweliad JSA
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ysgrifennu atoch i un ai:
- rhoi gwybod i chi eich bod yn gymwys am JSA a faint byddwch yn ei gael
- esbonio pam nad ydych yn gymwys am JSA
Ni fydd rhaid i chi wneud yr hyn y cytunwyd arno yn eich Ymrwymiad Hawlydd os nad ydych yn gymwys am JSA.