Lwfans Gwarcheidwad
Cymhwystra
Er mwyn cael Lwfans Gwarcheidwad, mae’n rhaid i’r canlynol i gyd fod yn berthnasol:
-
rydych yn magu plentyn rhywun arall
-
mae rhieni’r plentyn wedi marw (gweler yr amodau ar gyfer un rhiant sydd dal yn fyw isod)
-
rydych yn gymwys i gael Budd-dal Plant
Mae’n rhaid i un o’r rhieni hefyd fod naill ai:
-
wedi’i eni yn y DU neu yn un o aelod-wladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu yn y Swistir
-
yn byw yn y DU am o leiaf 52 wythnos yn ystod unrhyw gyfnod o 2 flynedd ers bod yn 16 oed
Os ydych yn mabwysiadu plentyn, efallai y byddwch yn dal i gael Lwfans Gwarcheidwad cyn belled â’ch bod yn ei gael cyn i chi fabwysiadu’r plentyn.
Os oes un rhiant sy’n fyw
Gallech gael Lwfans Gwarcheidwad os yw un o’r canlynol yn wir:
-
nid ydych yn gwybod ble mae’r rhiant sy’n fyw ac rydych wedi gwneud ymdrech deg i gysylltu ag ef neu hi
-
roedd y rhieni wedi ysgaru, neu diddymwyd eu partneriaeth sifil, ac nid yw’r rhiant sy’n fyw yn gwarchod y plentyn nac yn ei gynnal, ac nid oes gorchymyn llys ar waith sy’n datgan y dylai wneud hynny
-
nid oedd y rhieni wedi priodi, mae’r fam wedi marw ac mae’r tad yn anhysbys
-
bydd y rhiant sy’n fyw yn y carchar am o leiaf 2 flynedd o ddyddiad marwolaeth y rhiant arall
-
mae’r rhiant sy’n fyw yn yr ysbyty yn ôl gorchymyn llys
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i wirio pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.