Gwasanaethau ar-lein CThEF: mewngofnodi neu greu cyfrif

Sgipio cynnwys

Cael help wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF

Gallwch gael help wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF os ydych yn cael anawsterau.

Dynodydd Defnyddiwr (ID) neu gyfrinair ar goll

Gallwch adfer neu ailosod eich manylion mewngofnodi os ydych wedi’u colli. Cewch wybod sut i wneud hyn pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi.

Os gofynnwyd i chi am god cychwyn

Efallai y bydd angen i chi nodi cod cychwyn, sy’n 12 digid, pan fyddwch yn defnyddio gwasanaeth CThEF am y tro cyntaf.

Byddwch wedi cael gwybod p’un a oes angen cod cychwyn arnoch pan wnaethoch ymrestru ar gyfer y gwasanaeth. Bydd cod cychwyn yn eich cyrraedd drwy’r post cyn pen 10 diwrnod (neu 21 diwrnod os ydych yn byw dramor).

Os bydd angen cod cychwyn newydd arnoch

Os na allwch ddod o hyd i’ch cod cychwyn, neu os yw’ch cod cychwyn wedi dod i ben, gallwch wneud cais am un newydd.

  1. Mewngofnodwch i wasanaethau ar-lein CThEF.

  2. Dewiswch ‘gwneud cais am god cychwyn newydd’ neu gallwch ymrestru ar gyfer y gwasanaeth eto.

Bydd y cod newydd yn eich cyrraedd drwy’r post cyn pen 10 diwrnod (neu 21 diwrnod os ydych yn byw dramor).

Os ydych wedi’ch cloi allan o’ch cyfrif

Byddwch yn cael eich cloi allan o’ch cyfrif os byddwch yn defnyddio’r manylion mewngofnodi anghywir gormod o weithiau.

Caiff eich cyfrif ei ddatgloi ar ôl 2 awr. Ni all ymgynghorwyr y ddesg gymorth ddatgloi’ch cyfrif. 

Argaeledd a phroblemau ynghylch y gwasanaeth

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaethau (yn agor tudalen Saesneg).

Cael help gyda phroblemau eraill

Gallwch ofyn cynorthwyydd digidol CThEF am help wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF

Os na all y cynorthwyydd digidol helpu, gallwch ofyn i gael eich trosglwyddo i sgwrs dros y we ag ymgynghorydd CThEF, os yw’r ymgynghorydd ar gael.

Gallwch hefyd gael help gyda’r canlynol: