Mynediad at Waith: cael cefnogaeth os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd

Sgipio cynnwys

Adnewyddu eich grant

Bydd angen i chi adnewyddu eich grant Mynediad at Waith cyn iddo ddod i ben os ydych chi’n ei ddefnyddio i dalu am gymorth parhaus (er enghraifft, gweithiwr cymorth).

Bydd eich llythyr penderfyniad yn dweud pan ddaw eich grant i ben. Gallwch wneud cais i’w adnewyddu 12 wythnos cyn hyn.

Os ydych chi’n was sifil ac mae dyddiad gorffen eich grant ar neu ar ôl 1 Ebrill 2022, ni fyddwch yn gallu ei adnewyddu. Cysylltwch â’ch cyflogwr am gefnogaeth yn lle.

Gallwch wneud cais i adnewyddu ar-lein neu dros y ffôn.

Gwiriwch a ydych chi’n dal yn gymwys cyn i chi wneud cais.

Bydd angen i chi roi eich cyfeirnod unigryw (os ydych chi’n ei wybod).

Os oes angen y ffurflen arnoch mewn fformatau eraill, fel braille, print bras neu CD sain, ffoniwch y llinell gymorth Mynediad at Waith.

Adnewyddu ar-lein

Adnewyddu dros y ffôn

Gallwch wneud cais trwy ffonio’r llinell gymorth Mynediad at Waith.

Llinell gymorth Mynediad at Waith

Ffôn: 0800 121 7479
Ffôn testun: 0800 121 7579
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 7479
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfod am gostau galwadau

Os yw galwadau ffôn yn anodd i chi (er enghraifft, oherwydd ei bod yn fyddar neu drwm eich clyw), fe allwch ofyn i holl gyfathrebu fod drwy gyfrwng e-bost yn lle.

Ar ôl i chi wneud cais

Gall ymgynghorydd Mynediad at Waith gysylltu â chi.

Os oes unrhyw beth wedi newid ers i chi wneud cais ddiwethaf, gallant ofyn am ragor o wybodaeth. Er enghraifft, am eich cyflwr, sut mae’n effeithio ar eich gwaith a pha gefnogaeth rydych chi’n meddwl sydd ei angen arnoch chi.

Efallai y bydd angen asesiad gweithle pellach. Os felly, bydd y cynghorydd yn gofyn am ganiatâd cyn cysylltu â’ch cyflogwr.

Os bydd grant newydd yn cael ei gynnig i chi, dywedir wrthych faint y byddwch yn ei gael ac am ba hyd.