Mynediad at Waith: cael cefnogaeth os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd
Gwneud cais am Fynediad at Waith
Gwiriwch a ydych yn gymwys cyn i chi wneud cais.
Os ydych yn was sifil, bydd eich cyflogwr yn darparu cymorth yn lle Mynediad at Waith. Cysylltwch â nhw’n uniongyrchol i drefnu hyn.
Gallwch wneud cais am Fynediad at Waith ar-lein neu dros y ffôn.
Bydd angen i chi ddarparu:
- eich manylion cyswllt
- cyfeiriad a chod post eich gweithle
- gwybodaeth am sut mae eich cyflwr yn effeithio eich gwaith a pha gefnogaeth rydych yn credu sydd ei hangen arnoch
- manylion cyswllt yn y gweithle a all gadarnhau eich bod yn gweithio yna, os ydych wedi’ch cyflogi (ni fyddant yn cysylltu â nhw heb eich caniatâd)
- eich rhif Cyfeirnod Treth Unigryw (UTR) (os ydych yn hunangyflogedig)
Os ydych angen y ffurflen mewn fformatau gwahanol, megis braille, print bras, neu CD sain, ffoniwch y linell gymorth Mynediad at Waith.
Gwnewch gais ar-lein
Gwneud cais dros y ffôn
Gallwch wneud cais trwy ffonio llinell gymorth Mynediad at Waith. Sicrhewch fod gennych yr holl fanylion angenrheidiol gyda chi pan fyddwch yn ffonio.
Llinell gymorth Mynediad at Waith
Ffôn: 0800 121 7479
Ffôn testun: 0800 121 7579
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 7479
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfod am gostau galwadau