Newid manylion cerbyd ar dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)
Pa dystiolaeth i'w rhoi
Rhaid ichi roi tystiolaeth neu gadarnhad ysgrifenedig i DVLA os ydych yn gwneud unrhyw un o’r newidiadau canlynol i’ch cerbyd. Bydd eich diweddariad V5CW yn cael ei wrthod os na wnewch hynny.
Newid rhif injan neu gapasiti silindr (cc)
Mae angen ichi ddarparu un o’r canlynol:
-
derbynneb am yr injan newydd sy’n cynnwys rhif yr injan a’r capasiti silindr
-
tystiolaeth ysgrifenedig gan y gwneuthurwr
-
adroddiad archwilio a ddarperir at ddibenion yswiriant
-
cadarnhad ysgrifenedig ar bapur pennawd gan garej (os digwyddodd y newid cyn ichi brynu’r cerbyd)
Newid y math o danwydd
Mae angen ichi ddarparu tystiolaeth os:
-
yw eich injan bresennol wedi’i thrawsnewid – rhaid i’r cadarnhad fod ar bapur pennawd gan y garej a wnaeth y gwaith
-
yw injan newydd wedi’i gosod – darparwch y dderbynneb fel cadarnhad
Newid pwysau cerbyd mwy
Os ydych yn newid pwysau cerbyd mawr (er enghraifft, fan wersylla neu gerbyd nwyddau), bydd angen ichi ddarparu naill ai:
-
tystysgrif platio
-
tystysgrif pwysau dylunio
Newid y math o gorff yn garafán modur
Gwiriwch pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch pan ydych yn trosi fan yn fan wersylla neu garafán fodur.