Newid manylion cerbyd ar dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)
Sut i ddiweddaru eich V5CW
Llenwch adran 1 os oes gennych lyfr log steil newydd gyda blociau wedi’u rhifo amryliw ar y clawr blaen. Llenwch adran 7 os oes gennych y llyfr log steil hŷn.
Anfonwch ef i DVLA gydag unrhyw dystiolaeth angenrheidiol.
Os nad yw’r newid wedi’i restru yn adran 1 neu 7, ychwanegwch nodiadau at yr adran ‘manylion y cerbyd’ yn lle hynny. Anfonwch ef i DVLA gyda thystiolaeth a llythyr yn egluro’r newid.
Ble i anfon eich V5CW
Anfonwch eich V5CW i DVLA, Abertawe, SA99 1DZ os gwnaethoch newid unrhyw un o’r canlynol:
-
maint yr injan (cc)
-
math o danwydd
-
pwysau cerbyd nwyddau
-
nifer y seddi ar fws
Ar gyfer pob newid arall, anfonwch eich V5CW i DVLA, Abertawe, SA99 1BA.
Beth sy’n digwydd nesaf
Bydd DVLA yn cysylltu â chi i:
-
gadarnhau’r newid neu ddweud wrthych a oes angen archwiliad arno
-
dweud wrthych os yw’r newid yn golygu bod rhaid ichi dalu mwy o dreth cerbyd
Gall gymryd hyd at 2 i 4 wythnos i gael tystysgrif newydd os gwnewch gais drwy’r post.
Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log a bod 4 wythnos wedi mynd heibio ers ichi wneud cais.
Os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi hysbysu DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un amnewid.