Oedi (gohirio) eich Pensiwn y Wladwriaeth
Beth fyddwch yn ei gael
Mae faint o Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol a allech ei gael yn dibynnu ar ba bryd rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016
Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu bob wythnos rydych yn ei ohirio, cyn belled ag eich bod yn gohirio am o leiaf 9 wythnos.
Nid yw amser a dreulir yn y carchar neu pan fyddwch chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau penodol yn cyfrif tuag at y 9 wythnos.
Mae eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu yn gyfatebol â 1% am bob 9 wythnos rydych yn ei ohirio. Mae hyn yn gweithio allan ychydig o dan 5.8% am bob blwyddyn lawn.
Mae’r swm ychwanegol yn cael ei dalu gyda’ch taliad Pensiwn y Wladwriaeth arferol.
Enghraifft
Cewch £221.20 yr wythnos (Pensiwn newydd y Wladwriaeth llawn).
Drwy ohirio am 52 wythnos, cewch £12.82 yr wythnos yn ychwanegol (ychydig o dan 5.8% o £221.20).
Mae’r enghraifft hwn yn tybio nad oes cynnydd blynyddol yn y Pensiwn y Wladwriaeth. Os oes cynnydd blynyddol, gallai’r swm y gallech ei gael fod yn fwy.
Os ydych chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau
Ni fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu tra rydych chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau penodol.
Os ydych yn y carchar
Ni fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu pan rydych yn y carchar.
Os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
Gallwch gymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol fel naill ai:
- taliadau wythnosol uwch
- un cyfandaliad
Pan fyddwch yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth sydd wedi’i ohirio, cewch lythyr yn gofyn sut rydych am gymryd eich pensiwn ychwanegol. Bydd gennych 3 mis o dderbyn y llythyr yna i benderfynu.
Taliadau wythnosol uwch
Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu bob wythnos rydych yn ei ohirio, cyn belled ag eich bod yn gohirio am o leiaf 5 wythnos.
Nid yw amser a dreulir yn y carchar neu pan fyddwch chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau penodol yn cyfrif tuag at y 5 wythnos.
Mae eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu yn gyfatebol â 1% am bob 5 wythnos rydych yn ei ohirio. Mae hyn yn gweithio allan fel 10.4% am bob blwyddyn lawn.
Mae’r swm ychwanegol yn cael ei dalu gyda’ch taliad Pensiwn y Wladwriaeth arferol.
Enghraifft
Cewch £169.50 yr wythnos (Pensiwn newydd y Wladwriaeth llawn).
Drwy ohirio am 52 wythnos, cewch £17.62 yr wythnos yn ychwanegol (10.4% o £169.50).
Mae’r enghraifft hwn yn tybio nad oes cynnydd blynyddol yn y Pensiwn y Wladwriaeth. Os oes cynnydd blynyddol, gallai’r swm y gallech ei gael fod yn fwy.
Cyfandaliad
Gallwch gael cyfandaliad os ydych yn gohirio gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 12 mis yn olynol. Bydd hyn yn cynnwys llog o 2% uwchben cyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
Cewch eich trethu ar eich cyfradd gyfredol ar gyfandaliad. Er enghraifft, os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol trethir eich cyfandaliad ar 20%.
Os ydych chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau
Ni fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu tra rydych chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau penodol.
Os ydych yn y carchar
Ni fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu pan rydych yn y carchar.
Cynyddiadau blynyddol
Ar ôl i chi wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth, bydd y swm ychwanegol a gewch oherwydd eich bod wedi gohirio yn cynyddu fel arfer bob blwyddyn yn seiliedig ar Fynegai Prisiau Defnyddwyr. Ni fydd yn cynyddu i rai pobl sy’n byw dramor.
Cael help
Cysylltwch â’r llinell gais Pensiwn y Wladwriaeth os ydych angen help.