Oedi (gohirio) eich Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych yn symud dramor
Os ydych yn symud i unrhyw un o’r gwledydd ar y rhestr hon, mae’r rheolau ar gyfer gohirio’r un fath â’r DU:
- gwledydd Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
- Swistir
- gwlad y mae gan y DU gytundeb nawdd cymdeithasol gyda hi (ar wahân i Ganada neu Seland Newydd)
Os ydych yn symud i wlad nad yw ar y rhestr, bydd y taliad ychwanegol yn aros yr un fath. Ni fydd yn cynyddu neu’n gostwng dros amser.
Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016
Os ydych yn symud i wlad nad yw ar y rhestr, bydd eich taliad ychwanegol yn seiliedig ar y Pensiwn y Wladwriaeth sy’n ddyledus i chi ar ba bryd bynnag yw’r hwyraf o’r:
- dyddiad rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- dyddiad rydych wedi symud dramor
Cysylltwch â’r Ganolfan Pensiwn Rhyngwladol os ydych angen help i weithio allan beth y gallech ei gael.