Premiymau anabledd

Sgipio cynnwys

Cymhwyster

Gall taliadau premiwm anabledd gael eu hychwanegu i’ch:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Budd-dal Tai

Fel arfer, mae’n rhaid i chi fod yn gymwys ar gyfer premiwm anabledd i fod yn gymwys ar gyfer y premiymau difrifol neu uwch.

Os cewch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm, dim ond premiwm uwch neu difrifol y gallwch ei gael.

Defnyddiwch cyfrifiannell budd-daliadau i wirio eich cymhwyster.

Premiwm anabledd

Mae rhaid i chi neu’ch partner fod o dan oedran credyd pensiwn a naill ai wedi cofrestru’n ddall neu’n cael:

  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Taliad Anabledd Oedolion (ADP)
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
  • Credyd Treth Gwaith gydag elfen anabledd
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Budd-dal Analluogrwydd

Os nad ydych yn gymwys, efallai y byddwch yn dal i gael y premiwm os nad ydych wedi gallu gweithio am o leiaf blwyddyn.

Premiwm anabledd difrifol

Rhaid i chi gael y premiwm anabledd neu ESA yn seiliedig ar incwm, ac un o’r budd-daliadau cymwys canlynol:

  • Elfen bywyd bob dydd PIP
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
  • Elfen gofal DLA ar y gyfradd ganolig neu uwch
  • Taliad Anabledd Oedolion - elfen bywyd bob dydd ar y gyfradd safonol neu uwch
  • Lwfans Gweini (neu Lwfans Gweini Cyson a dalwyd gyda Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol neu Bensiwn Rhyfel)

Fel arfer, ni allwch cael unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn yn byw gyda chi, oni bai eu bod mewn un o’r sefyllfaoedd hyn:

  • maent yn cael budd-dal cymwys
  • maent wedi cofrestru’n ddall
  • maent yn lletywr neu’n is-denant (ond nid perthynas agos)
  • maent yn gwneud taliadau ar wahân i’r landlord

Ni allwch gael premiwm anabledd difrifol os yw rhywun yn cael un o’r canlynol am ofalu amdanoch chi:

  • Lwfans Gofalwr
  • yr elfen gofalwr o Gredyd Cynhwysol
  • Taliad Cymorth Gofalwr

Os ydych mewn cwpl

Byddwch yn cael swm uwch o bremiwm anabledd difrifol os ydych chi a’ch partner yn gymwys.

Gallwch gael y swm is os:

  • mae rhywun yn cael Lwfans Gofalwr, yr elfen gofalwr o Gredyd Cynhwysol neu Daliad Cymorth Gofalwr am ofalu am un ohonoch yn unig
  • dim ond un ohonoch sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyster a’r llall wedi ei gofrestru’n ddall

Premiwm anabledd uwch

I gael hwn mae’n rhaid i chi fod o dan oedran credyd pensiwn.

Rhaid i chi gael y premiwm anabledd neu ESA yn seiliedig ar incwm, ac un o’r canlynol:

  • Elfen bywyd bob dydd PIP ar y gyfradd uwch (‘wedi’i gynyddu’)
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
  • Elfen gofal DLA ar radd uwch
  • Elfen bywyd bob dydd Taliad Anabledd Oedolion (ADP) ar y gyfradd uwch (‘wedi’i gynyddu’)

Byddwch hefyd yn cael hyn os ydych yn y grŵp cymorth ar gyfer ESA yn seiliedig ar incwm.