Profi eich bod yn gymwys i gael Budd-dal Plant

Fel arfer gallwch ddefnyddio eich hysbysiad o ddyfarniad Budd-dal Plant i brofi eich bod yn gymwys i gael Budd-dal Plant.

Mae hysbysiad o ddyfarniad Budd-dal Plant wedi disodli rhifau Budd-dal Plant fel y brif ffordd o brofi eich bod yn gymwys. Ni fydd gennych rif Budd-dal Plant os gwnaethoch hawlio am y tro cyntaf ar ôl 23 Chwefror 2021.

Dylech wirio â’r person sy’n gofyn am y math o dystiolaeth sydd ei hangen arno, a pha mor ddiweddar y mae’n rhaid i’r dystiolaeth hon fod.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os oes angen tystiolaeth arall arnoch i brofi eich bod yn gymwys

Efallai y byddwch yn gallu:

  • defnyddio cyfriflen banc sy’n dangos Budd-daliadau Plant yn mynd i’ch cyfrif

  • defnyddio’r gwasanaeth ar-lein neu ap CThEF i argraffu’ch tudalen ‘tystiolaeth o hawl’, neu ei chadw fel dogfen, a’i defnyddio fel tystiolaeth

Os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Cewch wybod pan rydych yn mewngofnodi a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.

Os oes angen help arnoch i gasglu tystiolaeth

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gasglu tystiolaeth, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant.