Rhwymedigaethau cyfreithiol gyrwyr a beicwyr modur
Mae’n rhaid ichi wneud sawl peth cyn ichi yrru car neu reidio beic modur. Mae’r rhain yn cynnwys cael trwydded yrru, cofrestru, yswirio a threthu eich cerbyd, a chael MOT.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyn ichi yrru neu reidio
Mae’n rhaid ichi:
-
gael y drwydded yrru gywir
-
bod yr isafswm oedran ar gyfer gyrru neu reidio
-
bodloni’r isafswm rheolau golwg ar gyfer gyrru
Gyrwyr sy’n dysgu
Mae’n rhaid ichi:
-
gael eich goruchwylio gan yrrwr cymwys (ac eithrio os ydych yn reidio beic modur)
-
arddangos platiau L neu D yng Nghymru, neu blatiau L y tu allan i Gymru
Gofynion cerbydau
Rhaid i’r cerbyd:
-
cael treth cerbyd gyfredol (gwiriwch os yw eich cerbyd wedi’i drethu ar-lein)
-
cael tystysgrif MOT gyfredol (os oes angen un ar eich cerbyd)
Rhaid ichi hefyd gael yswiriant trydydd parti o leiaf sy’n cynnwys eich defnydd o’r cerbyd.
Newidiadau i fanylion personol neu fanylion y cerbyd
Mae’n rhaid ichi ddweud wrth DVLA os:
Bydd angen ichi newid eich enw ar eich trwydded yrru a’ch llyfr log cerbyd (V5CW).
Gyrru cerbydau neu fysiau mwy
Mae safonau meddygol a golwg uwch ar gyfer gyrru cerbydau mwy.
Mae’n rhaid ichi ddweud wrth DVLA os oes gennych unrhyw euogfarnau gyrru.
Os ydych yn gwneud cais am drwydded cerbyd cludo teithwyr (PCV), rhaid ichi hefyd ddweud wrth DVLA os oes gennych unrhyw euogfarnau eraill.
Dangos eich dogfennau gyrru
Os bydd swyddog heddlu yn gofyn ichi wneud hynny, rhaid ichi allu dangos:
-
eich trwydded yrru
-
tystysgrif yswiriant ddilys
-
tystysgrif MOT ddilys (os bydd angen un ar eich cerbyd)
Os nad oes gennych y dogfennau gyda chi ar y pryd, efallai y gofynnir ichi fynd â nhw i orsaf heddlu o fewn 7 diwrnod.