Rhywun yn mynd â chi i dribiwnlys cyflogaeth
Trosolwg
Gall cyflogai neu rywun arall (er enghraifft ymgeisydd am swydd neu undeb llafur) fynd â chi i dribiwnlys cyflogaeth am amryw faterion, gan gynnwys:
- cyflog
- diswyddo
- gwahaniaethu
Mae’r cyfarwyddyd hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae’r tribiwnlys yn annibynnol ar y llywodraeth a bydd yn gwrando arnoch chi (yr ‘atebydd’) a’r parti arall (yr ‘hawlydd’) cyn gwneud penderfyniad.
Os byddwch yn colli’r achos, efallai y bydd rhaid ichi dalu iawndal neu ailbenodi’r hawlydd i’w swydd.
Datrys yr anghydfod heb wrandawiad
Bydd y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cysylltu â chi os bydd rhywun eisiau gwneud hawliad yn eich erbyn. Byddant yn cynnig gweithio gyda chi a’r hawlydd i geisio datrys y broblem heb fynd i dribiwnlys - gelwir hyn yn ‘cymodi’.
Ffoniwch Acas i gael cymorth a chyngor.
Acas
Rhif ffôn: 0300 123 11 00
Ffôn testun: 18001 0300 123 1100
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Ymateb i hawliad
Bydd y tribiwnlys yn anfon llythyr atoch (a elwir yn ‘pecyn ymateb’) os bydd hawliad wedi’i wneud yn eich erbyn ac nid yw cymodi wedi gweithio.
Cyn i chi ymateb, darllenwch y cyfarwyddyd ar ymateb i hawliad.
Wedyn gallwch ymateb un ai:
- ar-lein drwy gyflwyno ffurflen ymateb ET3
- trwy lenwi a dychwelyd y pecyn ymateb a gewch
- trwy lawrlwytho a llenwi’r ffurflen ymateb a’i hanfon i’r swyddfa tribiwnlys sy’n delio â’r achos
Os ydych yn weithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith neu’n fath arall o weithiwr proffesiynol a bod yna gyfeirnod 16 digid yn eich pecyn ymateb, gallwch ymateb ar-lein drwy ddefnyddio cyfrif MyHMCTS.
Rhaid i chi ymateb i’r hawliad o fewn 28 diwrnod.
Efallai byddwch yn gallu cael rhagor o amser i ymateb - holwch y tribiwnlys. Os byddwch yn hwyr yn ymateb neu ddim yn ymateb o gwbl, gall y tribiwnlys wneud penderfyniad yn eich erbyn heb gynnal gwrandawiad.
Cynnig iawndal i’r hawlydd
Gallwch geisio setlo’r achos unrhyw adeg trwy gynnig talu iawndal i’r hawlydd (a elwir yn ‘cytundeb setlo’).
Cael cymorth neu gyngor cyfreithiol
Efallai byddwch eisiau cael cyngor cyfreithiol os bydd hawliad yn cael ei wneud yn eich erbyn.
Ffoniwch linell ymholiadau’r tribiwnlys cyflogaeth i gael arweiniad cyffredinol ar sut mae’r broses yn gweithio. Ni allant roi cyngor cyfreithiol i chi.
Canolfan gyswllt cwsmeriaid y Tribiwnlys Cyflogaeth
Rhif ffôn: 0300 303 5176 (Llinell Iaith Gymraeg)
Rhif ffôn: 0300 123 1024 (Siaradwyr Saesneg yng Nghymru a Lloegr)
Rhif ffôn: 0300 790 6234 (Yr Alban)
Ffôn testun: 18001 0300 123 1024 (Cymru a Lloegr)
Ffôn testun: 18001 0300 790 6234 (Yr Alban)
Gwybodaeth am gost galwadau
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Bydd Office of Industrial Tribunals and the Fair Employment Tribunal yn delio â’ch achos.