Cyn y gwrandawiad

Byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd cyn y gwrandawiad - byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau hyn. Rhaid i chi baratoi dogfennau a gwneud trefniadau i dystion fynychu ymlaen llaw.

‘Gwrandawiad Rhagarweiniol’

Efallai gofynnir i chi fynychu gwrandawiad cychwynnol (a elwir yn wrandawiad rhagarweiniol) gyda’r barnwr i benderfynu ar bethau fel:

  • dyddiad ac amser y gwrandawiad
  • pa mor hir dylai’r gwrandawiad bara

Bydd y tribiwnlys yn rhoi gwybod i chi os bydd rhaid i chi roi tystiolaeth neu ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Trefnu dogfennau

Gallwch ofyn i’r hawlydd am ddogfennau a fydd yn eich helpu gyda’r achos, a gallant ofyn am ddogfennau gennych chi hefyd.

Mae enghreifftiau o ddogfennau yn cynnwys:

  • contract cyflogaeth
  • slipiau cyflog
  • manylion cynllun pensiwn
  • nodiadau cyfarfodydd perthnasol

Fel arfer bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn yn pennu amserlen ar gyfer pryd y dylech gyfnewid dogfennau.

Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych sawl copi o bob dogfen y dylech ddod gyda chi i’r gwrandawiad.

Trefnu tystion

Gallwch ddod â thystion i’r gwrandawiad os ydynt yn gallu rhoi tystiolaeth sy’n berthnasol yn uniongyrchol i’r achos.

Os byddwch yn gofyn i dyst fod yn bresennol ac nid ydynt eisiau bod yn dyst, gallwch ofyn i’r tribiwnlys orchymyn iddynt fod yn bresennol. Mae’n rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig i’r swyddfa tribiwnlys sy’n delio â’r achos, gan roi:

  • enw a chyfeiriad y tyst
  • manylion o ran beth all y tyst ddweud a sut bydd yn helpu’r achos
  • y rheswm pam bod y tyst wedi gwrthod mynychu (os ydynt wedi rhoi rheswm)

Mwy na thebyg, chi fydd yn gyfrifol am dalu costau’r tyst.