Datrys anghydfodau rhwng cymdogion
Defnyddio gwasanaeth cyfryngu
Os na allwch ddatrys yr anghydfod trwy siarad â’ch cymydog, gallwch gael cymorth gan wasanaeth cyfryngu.
Sut mae cyfryngu yn gweithio
Mae cyfryngu yn digwydd pan fydd rhywun diduedd – sydd wedi ei hyfforddi i ddelio â thrafodaethau anodd rhwng dwy ochr wrthwynebol – yn gweithredu fel canolwr mewn anghydfod.
Gall ffi gael ei chodi am gyfryngu, ond bydd hyn yn rhatach na defnyddio cyfreithiwr a chymryd camau cyfreithiol.
Cysylltu â gwasanaeth cyfryngu
Mae gwasanaethau cyfryngu yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych yn byw:
- os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr, chwiliwch am ddarparwr cyfryngu yn eich ardal
- yn yr Alban, defnyddiwch y Scottish Mediation Network
- gall eich cyngor neu gymdeithas dai ddarparu gwasanaeth cyfryngu