Datrys anghydfodau rhwng cymdogion

Printable version

1. Trosolwg

Dilynwch y camau hyn os oes gennych anghydfod â’ch cymydog.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

  1. Ceisiwch ddatrys y broblem yn anffurfiol trwy siarad â’ch cymydog.

  2. Os yw’ch cymydog yn denant, gallech gysylltu â’i landlord.

  3. Gallech ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu os nad yw codi’r mater yn anffurfiol yn gweithio.

  4. Os yw’r anghydfod yn cynnwys niwsans statudol (rhywbeth fel cerddoriaeth uchel neu gŵn yn cyfarth), gallwch gwyno i’ch cyngor lleol.

  5. Cysylltwch â’r heddlu os yw’ch cymydog yn torri’r gyfraith trwy fod yn dreisgar neu aflonyddu arnoch.

  6. Os yw popeth arall wedi methu, gallwch gymryd camau cyfreithiol trwy’r llys.

2. Siarad â’ch cymydog

Cyn gwneud cwyn ffurfiol neu gynnwys pobl eraill, ceisiwch drafod y broblem â’ch cymydog.

Os ydych yn poeni ynghylch mynd at eich cymydog, ysgrifennwch lythyr, gan esbonio’r broblem yn eglur a glynu wrth y ffeithiau.

Os yw’r broblem yn effeithio ar gymdogion eraill, dylech eu cynnwys nhw hefyd. Gall fod yn haws i ddatrys anghydfod os yw nifer o bobl yn cwyno.

Gallai cymdeithas denantiaid helpu os ydych yn aelod.

Cewch gyngor ymarferol gan Gyngor ar Bopeth i ddelio ag anghydfodau cyffredin rhwng cymdogion, megis sŵn a sbwriel.

3. Cysylltu â landlord eich cymydog

Os yw’ch cymydog yn denant, gallwch gwyno i’w landlord. Gallai hyn fod yn gymdeithas dai, y cyngor neu’n landlord preifat.

4. Defnyddio gwasanaeth cyfryngu

Os na allwch ddatrys yr anghydfod trwy siarad â’ch cymydog, gallwch gael cymorth gan wasanaeth cyfryngu.

Sut mae cyfryngu yn gweithio

Mae cyfryngu yn digwydd pan fydd rhywun diduedd – sydd wedi ei hyfforddi i ddelio â thrafodaethau anodd rhwng dwy ochr wrthwynebol – yn gweithredu fel canolwr mewn anghydfod.

Gall ffi gael ei chodi am gyfryngu, ond bydd hyn yn rhatach na defnyddio cyfreithiwr a chymryd camau cyfreithiol.

Cysylltu â gwasanaeth cyfryngu

Mae gwasanaethau cyfryngu yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych yn byw:

5. Cwyno am sŵn i’r cyngor

Gallwch ofyn i’ch cyngor lleol am gymorth os yw’r anghydfod â’ch cymydog yn cynnwys gweithgaredd sy’n niweidiol i iechyd neu’n niwsans. Gelwir hyn yn ‘niwsans statudol’.

Gallai hyn gynnwys:

  • sŵn (gan gynnwys cerddoriaeth uchel a chŵn yn cyfarth)
  • golau artiffisial (ac eithrio lampau stryd)
  • llwch, ager, arogl neu bryfed o safle busnes
  • mwg, mygdarthau neu nwyon
  • pentwr o sbwriel a allai niweidio iechyd

Mae dyletswydd gan eich cyngor i ymchwilio i unrhyw niwsans statudol.

Dylech geisio datrys y broblem bob amser trwy siarad â’ch cymydog neu trwy gyfryngu cyn cysylltu â’r cyngor.

Cosbau

Os yw’r cyngor yn penderfynu bod rhywun yn achosi niwsans sŵn statudol rhaid iddo gyhoeddi gorchymyn ‘lleihau sŵn’. Mae hyn yn dweud wrth y person beth y mae’n rhaid iddo ei wneud i atal gwneud niwsans sŵn neu wynebu camau cyfreithiol pellach.

Os yw rhywun yn torri’r gorchymyn lleihau sŵn o’i gartref, gall gael dirwy o hyd at £5,000. Os yw’n sŵn o ffatri neu fusnes, gall y gosb fod hyd at £20,000.

6. Perthi uchel, coed a therfynau

Rhaid ichi geisio datrys anghydfod ynghylch perth uchel yn anffurfiol cyn y gall y cyngor ymyrryd.

Gofynnwch i’ch cyngor am ffurflen gwyno os yw’r berth yn bob un o’r rhain:

  • 2 neu ragor o goed neu brysglwyni bytholwyrdd neu rannol-fyddolwyrdd
  • dros 2 fetr o daldra
  • yn effeithio ar eich mwynhad o’ch cartref neu’ch gardd oherwydd ei bod yn rhy dal

Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu ffi er mwyn i’r cyngor ystyried eich cwyn.

Darllenwch ragor am gwyno i’ch cyngor ynghylch perth uchel.

Pryd y gallwch docio perthi neu goed

Gallwch docio canghennau neu wreiddiau sy’n croesi eich eiddo o eiddo eich cymydog neu ffordd gyhoeddus.

Gallwch docio hyd at derfyn yr eiddo yn unig. Os gwnewch fwy na hyn, gallai’ch cymydog fynd â chi i’r llys am niweidio ei eiddo.

Os ydych yn byw mewn ardal gadwraeth, neu os yw’r coed yn y berth wedi eu gwarchod gan ‘orchymyn diogelu coed’, efallai y bydd angen caniatâd eich cyngor arnoch i’w tocio.

Os yw’ch eiddo yn ffinio â ffordd

Gall yr awdurdod priffyrdd ofyn ichi dorri perthi neu goed ar eich eiddo os ydynt yn achosi rhwystr yn y ffordd. Os ydych yn gwrthod, gallant fynd ar eich eiddo heb eich caniatâd i wneud y gwaith ei hun. Gall godi ffi am wneud hyn.

Niwed i eiddo o berthi

Mae eich cymydog yn gyfrifol am gynnal ei berthi gan sicrhau nad ydynt, er enghraifft, yn niweidio eich eiddo neu’n tyfu’n rhy uchel. Os ydynt yn niweidio eich eiddo, gall eich cymydog fod yn atebol.

Terfynau a waliau a rennir (‘cydrannol’)

Gall anghydfodau ynghylch beth yw’r union derfyn rhwng dau eiddo fod yn anodd i’w datrys felly ceisiwch gyngor cyfreithiol.

Rhaid ichi roi rhybudd i’ch cymydog os ydych yn mynd i wneud gwaith ar wal a rennir (‘cydrannol’).

Mae cyngor am ddim ar gael gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) am anghydfodau ynghylch terfynau a waliau cydrannol (y waliau rydych yn eu rhannu â’ch cymdogion).

7. Galw’r heddlu

Dylech alw’r heddlu os yw’ch cymydog:

  • yn dreisgar, yn fygythiol neu’n ddifrïol
  • yn eich aflonyddu yn rhywiol, neu oherwydd eich rhywioldeb, crefydd neu gefndir ethnig
  • yn torri’r gyfraith mewn unrhyw ffordd arall - neu os ydych yn amau ei fod yn gwneud hyn

8. Gweithredu trwy’r llysoedd

Os yw popeth arall yn methu, gallwch gymryd camau cyfreithiol yn erbyn cymydog.

Gall fynd â rhywun i’r llys fod yn ddrud felly dylid dewis gwneud hyn dim ond os nad yw unrhyw beth arall yn gweithio. Gall fod costau llys ac efallai y bydd yn rhaid ichi dalu cyfreithiwr.

Cyngor cyfreithiol

Gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim o ganolfan y gyfraith, canolfan gynghori neu Gyngor ar Bopeth.

Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr sy’n delio ag anghydfodau rhwng cymdogion hefyd.