Costau tai a Chredyd Cynhwysol
Byw mewn eiddo rydych yn berchen arno
Gallech gael taliad Credyd Cynhwysol i’ch helpu i dalu am daliadau gwasanaeth os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol
- rydych chi neu’ch partner yn berchen ar y cartref rydych yn byw ynddo (gan gynnwys os yw’n eiddo berchnogaeth ar y cyd
- os ydych yn byw mewn eiddo lesddaliadol
Mae taliadau gwasanaeth yn cynnwys:
- defnyddio cyfleusterau a rennir, fel casglu sbwriel neu lifftiau cymunedol
- glanhau ffenestri’r lloriau uchaf
- atgyweiriadau a cynnal a chadw
Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)
Efallai y byddwch yn gallu cael Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI) os ydych wedi bod ar Gredyd Cynhwysol am 3 mis yn olynol.
Benthyciad yw SMI a all helpu tuag at daliadau llog ar:
- eich morgais
- benthyciadau rydych wedi’u cymryd ar gyfer rhai atgyweiriadau a gwelliannau i’ch cartref
Os ydych yn gymwys i gael benthyciad SMI, gallwch gael help i dalu’r llog ar hyd at £200,000 o’ch benthyciad neu’ch morgais.
Mae’r swm a gewch yn seiliedig ar gyfradd llog sefydlog ar yr hyn sydd ar ôl o’ch morgais. Fe’i telir yn syth i’ch benthyciwr.
Bydd angen i chi ad-dalu’ch benthyciad SMI â llog pan fyddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth eich cartref (oni bai eich bod yn symud y benthyciad i eiddo arall)
Help gyda chostau gwasanaeth
Efallai y gallwch gael help i dalu am eich tâl gwasanaeth os ydych yn berchen ar eiddo lesddaliad ac wedi bod ar Gredyd Cynhwysol am 9 mis.
Ni allwch gael help gyda thaliadau gwasanaeth os ydych yn cael incwm gan:
- eich swydd os ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig
- ad-daliad treth
- Tâl Salwch Statudol
- Tâl Mamolaeth Statudol
- Tâl Tadolaeth Statudol
- Tâl Mabwysiadu Statudol
- Tâl Rhiant a Rennir Statudol