Tâl ac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol: arweiniad i gyflogwyr
Cymhwystra
Bydd rhai cyflogeion ddim yn gymwys am absenoldeb a thâl efo’i gilydd.
Absenoldeb Mabwysiadu Statudol
Mae’n rhaid i’r cyflogeion wneud y canlynol:
- rhoi’r rhybudd cywir i chi
- cael eu hystyried i fod yn gyflogeion (yn agor tudalen Saesneg)
Nid oes yn rhaid iddynt roi tystiolaeth o’r mabwysiadu neu o’r trefniant â mam fenthyg oni bai eich bod yn gofyn amdani.
Absenoldeb ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu plentyn o dramor
Rhaid i gyflogai hefyd lofnodi ffurflen SC6 os yw’n mabwysiadu plentyn o dramor gyda phartner. Mae hyn yn cadarnhau nad yw’n cymryd absenoldeb na thâl tadolaeth.
Tâl Mabwysiadu Statudol
Mae’n rhaid i gyflogai:
- fod wedi’i gyflogi’n barhaus gennych (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn yr wythnos pan mae wedi’i baru â phlentyn
- fod ar eich cyflogres ac yn ennill o leiaf £123 yr wythnos mewn cyfnod 8 wythnos - y ‘cyfnod perthnasol’
- roi’r rhybudd cywir i chi
- roi tystiolaeth o fabwysiadu i chi
Defnyddiwch y cyfrifiannell tâl mabwysiadu (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gwirio cymhwystra’r cyflogai ac i gyfrifo’i wythnos paru, cyfnod perthnasol, cyfnod rhybudd a thâl mabwysiadu.
Mae rheolau arbennig ar gyfer rhai amgylchiadau (yn agor tudalen Saesneg), er enghraifft os yw’r cyflogai yn gadael neu’n mynd yn sâl, neu mae ei blentyn yn marw.
Tâl ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu plentyn o dramor
Mae’r gofynion yr un peth ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu o dramor, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cyflogi’n barhaus gennych am o leiaf 26 wythnos ar ddechrau’r wythnos pan fydd y tâl yn cychwyn.
Rhaid iddynt hefyd lofnodi ffurflen SC6 os ydynt yn mabwysiadu â phartner. Mae hyn yn cadarnhau nad yw’n cymryd absenoldeb na thâl tadolaeth.
Tâl ar gyfer cyflogeion sydd â threfniadau mam fenthyg
Mae’r gofynion yr un peth ar gyfer cyflogeion sydd â threfniadau mam fenthyg, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cyflogi’n barhaus gennych am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn y 15fed wythnos cyn y disgwylir i’r baban gael ei eni.
Os ydych yn gofyn amdani, mae’n rhaid iddynt hefyd roi tystiolaeth i chi eu bod yn bwriadu dod yn rhiant cyfreithiol y baban.
Pwy sydd ddim yn gallu bod yn gymwys
Ni fydd cyflogai yn gymwys ar gyfer absenoldeb na thâl mabwysiadu os yw’r canlynol yn wir:
- mae’n dod yn warcheidwad arbennig neu ofalwr sy’n berthynas
- mae’n mabwysiadu llysblentyn neu aelod o’r teulu
- mae’n mabwysiadu’n breifat, er enghraifft heb ganiatâd oddi wrth awdurdod yn y DU neu asiantaeth mabwysiadu