Tâl ac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol: arweiniad i gyflogwyr

Skip contents

Gwrthod tâl neu absenoldeb

Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Ni allwch wrthod absenoldeb mabwysiadu na newid faint o absenoldeb mae cyflogai am ei gymryd.

Ar gyfer mabwysiadu gallwch ohirio’r dyddiad dechrau os nad oes gan y cyflogai esgus rhesymol dros beidio â rhoi’r rhybudd cywir i chi. I’w ohirio, ysgrifennwch ato cyn pen 28 diwrnod o’i gais am absenoldeb.

Tâl Mabwysiadu Statudol

Gallwch wrthod Tâl Mabwysiadu Statudol os nad yw’r cyflogai’n gymwys.

I’w wrthod, rhowch ffurflen SAP1 i’r cyflogai cyn pen 7 diwrnod ar ôl eich penderfyniad. Rhaid iddo gael y ffurflen hon cyn pen 28 diwrnod ar ôl ei gais am Dâl Mabwysiadu Statudol neu’r dyddiad y cafodd ei baru â’r plentyn (p’un bynnag sydd gynharaf).