Taliadau mesothelioma ymledol

Sgipio cynnwys

Sut i wneud cais

Cynllun 2008

Llenwch ffurflen gais taliad mesothelioma a darparu tystiolaeth feddygol.

Cysylltwch â Llinell Gymorth Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB) os nad oes modd i chi argraffu ffurflen ac mae angen un wedi’i anfon atoch.

Llinell Gymorth IIDB
Rhif ffôn: 0800 279 2322 Ffôn testun: 0800 169 0314 Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 8379
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gwasanaeth Video Relay os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Darganfyddwch am gostau galwadau

Barnsley IIDB Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1SY

Fformatiau Amgen

Cysylltwch â llinell gymorth IIDB i ofyn am fformatiau amgen, fel braille, print bras neu CD sain.

Rhaid i chi wneud cais o fewn 12 mis o dderbyn diagnosis. Os ydych yn ddibynnydd sy’n hawlio ar gyfer rhywun sydd eisoes wedi marw rhaid i chi wneud cais o fewn 12 mis o’u marwolaeth.

Cynllun Taliad Mesothelioma Ymledol (DMPS)

Gallwch wneud cais ar lein ar wefan DMPS.

Byddwch angen:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich hanes cyflogaeth lawn, gyda thystiolaeth – er enghraifft, P60
  • tystiolaeth o geisiadau aflwyddiannus i olrhain eich cyflogwr neu yswirwyr
  • dyddiad eich diagnosis
  • manylion unrhyw geisiadau blaenorol
  • datganiad tyst

Cysylltwch â TopMark am ragor o wybodaeth ar DMPS am sut i wneud cais.

TopMark
dmps@topmarkcms.com Rhif ffôn: 0330 058 3930 Darganfyddwch am gostau galwadau

TopMark Claims Management
160 Bath Street
Glasgow

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hwn yn ailystyriaeth orfodol.

Os nad ydych yn bodlon gyda chanlyniad yr ailystyriaeth orfodol, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynhaliaeth Plant. Bydd y tribiwnlys yn ddiduedd ac yn annibynnol o’r llywodraeth.

Rhaid i chi apelio i’r tribiwnlys o fewn mis o gael penderfyniad yr ailystyriaeth orfodol. Os ydych yn cyflwyno eich apêl ar ôl mis bydd rhaid i chi esbonio pam nad oeddech wedi’i wneud yn gynharach.

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen SSCS6a a’i anfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Bydd angen i chi benderfynu a ydych am fynd i’r gwrandawiad tribiwnlys i esbonio eich achos. Os nad ydych yn mynychu, bydd penderfyniad eich apêl yn cael ei wneud yn seiliedig ar y ffurflen ac unrhyw dystiolaeth ategol.

Ar ôl cyflwyno eich apêl, gallwch ddarparu tystiolaeth. Bydd eich apêl a’r dystiolaeth yn cael eu trafod mewn gwrandawiad gan farnwr ac un neu ddau arbenigwr. Bydd y barnwr wedyn yn gwneud penderfyniad.

Mae fel arfer yn cymryd tua 6 mis i’ch apêl gael ei chlywed gan y tribiwnlys.