Talu cosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu’ch cosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif bancio drwy ffôn symudol.
Pan fyddwch yn barod i dalu, ewch ati i ddechrau’ch taliad cosb am dalu’n hwyr ar gyfer CIS. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif bancio drwy ffôn symudol er mwyn cymeradwyo’ch taliad cosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer CIS.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.