Talu Cytundeb Setliad TWE
Trosolwg
Mae’n rhaid i chi dalu’r dreth a’r Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B sy’n ddyledus o’ch Cytundeb Setliad TWE (PSA) erbyn 22 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Talu ar-lein
Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosbau a llog os yw’ch taliad yn hwyr.
Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:
-
cymeradwyo gan ddefnyddio’ch cyfrif banc
-
Debyd Uniongyrchol (taliad untro)
-
cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Dulliau eraill o dalu
Gallwch ddewis talu drwy ddulliau eraill. Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.
Ni allwch dalu yn Swyddfa’r Post mwyach.
Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
-
bancio ar-lein neu dros y ffôn drwy Daliadau Cyflymach neu CHAPS
3 diwrnod gwaith neu fwy
-
Debyd Uniongyrchol (os ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
-
bancio ar-lein neu dros y ffôn drwy Bacs
-
yn eich banc neu gymdeithas adeiladu
5 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol (os nad ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn).