Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch dalu drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.

Cyfeirnod

Bydd angen eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) arnoch wrth wneud taliad. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Fe welwch hwn ar y slip talu a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Os nad yw’ch cyfeirnod PSA gennych, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU

Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001020
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor

Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92
  • cod adnabod y banc (BIC) - BARCGB22
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Dylai taliadau tramor fod mewn sterling, ac mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os defnyddiwch unrhyw arian cyfred arall.

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.