Talu’r Doll Peiriannau Hapchwarae
Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu’ch Toll Peiriannau Hapchwarae yn uniongyrchol drwy’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif bancio drwy’ch ffôn symudol.
Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Toll Peiriannau Hapchwarae. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif bancio drwy’ch ffôn symudol er mwyn cymeradwyo’ch taliad Toll Peiriannau Hapchwarae.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.