Debyd Uniongyrchol

Dim ond os ydych wedi cofrestru ar gyfer Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) ar-lein y gallwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Defnyddiwch eich cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) er mwyn trefnu Debyd Uniongyrchol.

Gallwch drefnu:

  • taliad unigol bob tro rydych yn cyflwyno’ch datganiad

  • taliad awtomatig o’r doll a ddangosir ar eich datganiad (a elwir yn ‘cynllun taliadau newidiol’)

Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod wedi’i drefnu o hyd.

Taliad unigol

Gallwch wneud un taliad unigol drwy Ddebyd Uniongyrchol ar-lein.

Mae’n cymryd 5 diwrnod gwaith i brosesu taliad Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn ei drefnu y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.

Cynllun taliadau newidiol

Dim ond ar-lein y gallwch drefnu taliadau Debyd Uniongyrchol awtomatig rheolaidd. Dewiswch ‘cynllun taliadau newidiol’ pan fyddwch yn trefnu’ch Debyd Uniongyrchol.

Mae’n cymryd o leiaf 10 diwrnod gwaith i brosesu taliad pan fyddwch yn ei drefnu y tro cyntaf. Sicrhewch y bydd eich taliad yn cyrraedd CThEF cyn y dyddiad cau.

Ar ôl hynny, bydd eich taliad yn cael ei gymryd yn awtomatig bob tro ei fod yn ddyledus.

Bydd angen i chi ganslo’ch Debyd Uniongyrchol os ydych am newid i ddull gwahanol o dalu.