Treuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr
Dyddiadau cau
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud | Dyddiad cau ar ôl diwedd y flwyddyn dreth |
---|---|
Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau | 6 Gorffennaf |
Rhoi copi o’r wybodaeth i’ch cyflogeion | 6 Gorffennaf |
Rhoi gwybod am gyfanswm yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch | 6 Gorffennaf |
Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A | 22 Gorffennaf (19 Gorffennaf os ydych yn talu â siec) |
Talu treth ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B os oes gennych Gytundeb Setliad TWE | 22 Hydref (19 Hydref os ydych yn talu â siec) |
Talu treth TWE neu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 os ydych yn ’talu drwy’r gyflogres’ | Misol drwy’r gyflogres |
Codir cosb arnoch o £100 am bob 50 o gyflogeion ar gyfer pob mis neu ran o’r mis mae’ch P11D(b) yn hwyr. Hefyd, caiff cosbau a llog eu codi arnoch os ydych yn hwyr yn talu Cyllid a Thollau EF.