Ychwanegu categorïau at eich trwydded yrru

Cael ‘hawl dros dro’ ac yna sefyll prawf i gael categorïau uwch wedi’u hychwanegu at eich trwydded. Efallai y bydd gennych hawl awtomatig i gategorïau is hefyd os byddwch yn pasio prawf gyrru categori uwch.

Gwirio ar-lein i weld pa gerbydau y gallwch eu gyrru ar hyn o bryd.

Ychwanegu hawliau categori uwch at eich trwydded

I ychwanegu hawliau categori uwch at eich trwydded yrru, bydd angen ichi:

  1. Basio eich prawf gyrru car (B).

  2. Cael hawl dros dro ar gyfer y categori o gerbyd rydych am ei yrru.

  3. Pasio’r prawf gyrru ar gyfer y categori newydd i gael hawl lawn.

Nid oes angen ichi wneud prawf ar gyfer categori is yn gyntaf. Er enghraifft, nid oes angen ichi basio prawf mewn lori maint canolig (categori C1) cyn y gallwch sefyll prawf mewn lori maint canolig gydag ôl-gerbyd (categori C1E).

Os byddwch yn pasio’r prawf i gael trwydded car lawn (B), byddwch yn cael hawl BE lawn yn awtomatig. Cael gwybod beth mae’r categorïau hyn yn ei olygu.

Cael hawl dros dro

Yr hawliau dros dro y gallwch wneud cais amdanynt yw C, C1, C1+E, D a D1. Cael gwybod beth mae’r categorïau hyn yn ei olygu.

Er enghraifft, os oes gennych drwydded car lawn gallwch wneud cais am hawl dros dro i yrru lori neu fws.

Os byddwch yn gwneud cais am un o’r hawliau dros dro hyn, byddwch yn cael hawliau ychwanegol i’r un yr ydych yn gwneud cais amdano.

Hawliau dros dro rydych yn gwneud cais amdanynt Hawliau dros dro ychwanegol y byddwch yn eu derbyn
C C1, C1+E, C, C+E
C1  C1
C1+E C1, C1+E, C, C+E
D C1, C1+E, C, C+E, D1, D1+E, D, D+E
D1 C1, C1+E, C, C+E, D1, D1+E, D, D+E

Rydych yn cael hawl dros dro yn awtomatig i gategorïau G a H - nid oes angen ichi wneud cais.

Os cawsoch eich hawl fws neu lori cyn 15 Tachwedd 2021

Efallai y byddwch yn gallu cael hawliau dros dro ychwanegol i’r rhai y cyhoeddwyd ichi.

Os cawsoch hawl fws neu lori lawn ar ôl 15 Tachwedd, bydd yr hawliau dros dro ychwanegol hyn yn cael eu hychwanegu at eich trwydded yn awtomatig.

Yr hawl a gyhoeddwyd ichi Hawliau dros dro y byddwch yn eu derbyn
C1 C1
C1+E C1, C1+E, C, C+E
C C1, C1+E, C, C+E
C+E C1, C1+E, C, C+E
D1 C1, C1+E, C, C+E, D1, D1+E, D, D+E
D1+E C1, C1+E, C, C+E, D1, D1+E, D, D+E
D C1, C1+E, C, C+E, D1, D1+E, D, D+E
D+E C1, C1+E, C, C+E, D1, D1+E, D, D+E

I gael yr hawliau dros dro ychwanegol eu hychwanegu at eich trwydded, archebwch ffurflen D2W gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Efallai y bydd angen ichi anfon ffurflen D4 hefyd – rhaid i feddyg lenwi hwn. Gwiriwch ffurflen D2W i weld os oes angen ichi wneud hyn.

Anfonwch y ffurflen a’ch trwydded yrru cerdyn-llun i DVLA. Nid oes ffi ymgeisio.

Os oes gennych drwydded yrru bapur rhaid ichi gynnwys ffotograff lliw steil pasbort a dogfennau adnabod gwreiddiol.

DVLA  
Abertawe  
SA99 1BR

Dylech gael eich trwydded yrru newydd o fewn 3 wythnos i DVLA gael eich cais. Gall gymryd mwy o amser os oes angen gwirio eich iechyd neu’ch manylion personol.

Os ydych wedi datblygu cyflwr meddygol neu anabledd, wedi newid eich cyfeiriad neu wedi cael troseddau gyrru newydd ers eich cais gwreiddiol, bydd angen ichi wneud cais am hawl dros dro eto.

Gwirio ar-lein i weld pa gerbydau y gallwch eu gyrru ar hyn o bryd.

Cael categorïau wedi’u hychwanegu’n awtomatig pan fyddwch yn pasio prawf gyrru ôl-gerbyd (uwchraddio)

Os byddwch yn pasio’r prawf gyrru ar gyfer hawl ôl-gerbyd, weithiau bydd gennych gategorïau is wedi’u huwchraddio’n awtomatig.

Enghraifft

Os oes gennych drwydded gyda hawliau am gategori cerbyd D, ac yna rydych yn pasio’r prawf C+E, byddwch nid yn unig yn cael hawl i gerbydau C+E ond byddwch hefyd yn cael eich uwchraddio i yrru cerbydau D+E.

Os ydych yn cael yr hawl ôl-gerbyd ar gyfer cerbydau mwy, weithiau byddwch yn cael yr hawl ôl-gerbyd lawn ar gyfer cerbydau llai yn awtomatig.

Gwirio ar-lein i weld pa gerbydau y gallwch eu gyrru ar hyn o bryd.

Fel canllaw:

  • gall hawliau lorïau uwchraddio hawliau bysiau

  • ni all hawliau bysiau uwchraddio hawliau lorïau

  • gall hawliau lorïau a bysiau uwchraddio hawliau ceir

Mae’r tabl yn dangos y categorïau cerbydau gwreiddiol a ddelir, y prawf categori cerbydau uwch sydd wedi cael ei basio a’r categorïau cerbydau ychwanegol a fydd yn cael eu huwchraddio’n awtomatig.

Hawl lawn a ddelir Prawf newydd a basiwyd Uwchraddio awtomatig
B dim angen prawf B+E
B, C1 C1+E dim uwchraddio
B, D1 D1+E dim uwchraddio
B, C1, D1 C1+E dim uwchraddio
B, C1, D1 D1+E dim uwchraddio
B, C, C1, D1 C+E C1+E
B, C1, C, D1, D D+E D1+E
B, C1, C, D1, D C+E C1+E, D1+E, D+E

Gwybodaeth bellach

I gael rhagor o wybodaeth am ychwanegu categorïau yn awtomatig at eich trwydded cysylltwch â DVLA.