Yswiriant Gwladol a threth ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Skip contents

Rhoi’r gorau i dalu Yswiriant Gwladol

Fel arfer, unwaith i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg), byddwch yn rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol – a hynny hyd yn oed os byddwch yn parhau i weithio.

Gallwch hawlio ad-daliad Yswiriant Gwladol os ydych wedi gordalu.

Os ydych yn hunangyflogedig

Ni fydd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 (yn agor tudalen Saesneg) yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu bellach. Rydych yn rhoi’r gorau i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 o 6 Ebrill (dechrau’r flwyddyn dreth) ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Er enghraifft, os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Medi 2024. Byddwch yn rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 o 6 Ebrill 2025, ac yn talu’ch bil Dosbarth 4 terfynol, ynghyd â’ch Treth Incwm, erbyn 31 Ionawr 2026.

Bydd yn dal i fod angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer pob blwyddyn yr ydych yn gweithio – a pharhau i wneud hyn hyd yn oed ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn gyflogai

Os byddwch yn parhau i weithio, dangoswch dystiolaeth o’ch oedran (er enghraifft, tystysgrif geni neu basbort) i’ch cyflogwr er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi’r gorau i dalu Yswiriant Gwladol.

Os oes well gennych fod eich cyflogwr ddim yn gweld eich tystysgrif geni neu’ch pasbort, gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) anfon llythyr atoch fel tystiolaeth o’ch oedran yn lle.

Bydd y llythyr yn cadarnhau’r canlynol:

  • eich bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

  • does dim angen i chi dalu Yswiriant Gwladol

Bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF i esbonio pam nad ydych am ddangos eich tystysgrif geni neu’ch pasbort i’ch cyflogwr.


Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST 

Os nad oes gan CThEF gofnod o’ch dyddiad geni, bydd gofyn i chi anfon eich tystysgrif geni neu’ch pasbort at ddibenion dilysu. Caiff copïau ardystiedig (yn agor tudalen Saesneg) eu derbyn.

Gallwch hefyd ddangos Tystysgrif Eithrio oherwydd Oedran (CA4140) os oes gennych un.