Yswiriant Gwladol a threth ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Lwfansau treth ar sail oed
Lwfans Pâr Priod
Gallwch hawlio’r Lwfans Pâr Priod (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn briod, neu mewn partneriaeth sifil, a ganed un ohonoch cyn 6 Ebrill 1935. Bydd y lwfans hwn yn cael ei ddidynnu o’ch bil treth – mae’r swm a ddidynnir yn dibynnu ar eich incwm.
Rhyddhad Taliadau Cynhaliaeth
Gallwch gael lwfans i ostwng eich bil treth ar gyfer taliadau cynhaliaeth a dalwch i gyn-briod neu gyn-bartner sifil os yw’r canlynol yn wir:
-
ganed un ohonoch cyn 6 Ebrill 1935
-
rydych wedi gwahanu, neu wedi ysgaru, ac rydych yn gwneud taliadau o dan orchymyn llys
-
mae’r taliadau yn cael eu gwneud ar gyfer cynhaliaeth eich cyn-briod neu’ch cyn-bartner sifil (cyhyd â’i fod heb ail-briodi neu ffurfio partneriaeth sifil newydd) neu gynhaliaeth eich plant sydd o dan 21 oed
Faint y gallwch ei gael
Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, gall Rhyddhad Taliadau Cynhaliaeth ostwng eich bil treth gan y naill neu’r llall o’r canlynol (p’un bynnag sydd is):
-
£428 – pan ydych yn gwneud taliadau cynhaliaeth sydd werth £4,280 neu fwy y flwyddyn
-
10% o’r arian rydych wedi’i dalu mewn gwirionedd – pan ydych yn gwneud taliadau cynhaliaeth sydd werth llai na £4,280 y flwyddyn
Ni allwch hawlio gostyngiad treth ar gyfer unrhyw daliadau gwirfoddol a wnaed gennych.