Ailymgeisio am drwydded yrru yn dilyn cyflwr meddygol

Sgipio cynnwys

Pryd y gallwch ddechrau gyrru eto

Mae yna reolau gwahanol ar gyfer pryd y gallwch yrru eto yn dibynnu ar a gafodd eich trwydded ei hildio’n wirfoddol, neu os cafodd ei diddymu neu ei gwrthod am resymau meddygol.

Trwyddedau sydd wedi’u diddymu neu eu gwrthod am resymau meddygol

Gallwch ailymgeisio am eich trwydded pan fydd eich meddyg yn dweud eich bod yn bodloni’r safonau meddygol ar gyfer gyrru.

Trwyddedau sydd wedi’u hildio’n wirfoddol

Gallwch yrru tra bod eich trwydded yn cael ei hadnewyddu os ydych yn bodloni’r holl amodau canlynol:

  • mae gennych gefnogaeth eich meddyg i barhau i yrru

  • roedd gennych drwydded ddilys

  • rydych dim ond yn gyrru o dan amodau’r drwydded flaenorol

  • mae eich cais yn llai na blwydd oed

  • ni chafodd eich trwydded ddiwethaf ei diddymu na’i gwrthod am resymau meddygol

  • nid ydych wedi’ch gwahardd ar hyn o bryd

  • ni chawsoch eich gwahardd fel troseddwr risg uchel ar neu ar ôl 1 Mehefin 2013

Darllenwch y canllawiau ‘Gaf i yrru tra bod fy nghais gyda DVLA?’ am ragor o wybodaeth.