Ailymgeisio am eich trwydded yrru os ydych wedi cael eich gwahardd
Rhaid ichi wneud cais am drwydded yrru newydd i yrru eto os:
-
ydych wedi cael eich gwahardd rhag gyrru
-
yw eich trwydded yrru lawn neu dros dro wedi cael ei chanslo (‘ei diddymu’)
Gwiriwch eich cofnod gyrru ar-lein i weld pryd y bydd eich gwaharddiad yn dod i ben.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gwaharddiad am yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau
Gallwch ailymgeisio am eich trwydded yrru lawn neu dros dro cyn i’ch cyfnod gwahardd ddod i ben.
Bydd DVLA yn anfon ffurflen adnewyddu D27W atoch:
-
56 diwrnod cyn i’ch gwaharddiad ddod i ben
-
90 diwrnod cyn i’ch gwaharddiad ddod i ben os ydych yn droseddwr risg uchel
Llenwch y ffurflen hon a’i hanfon i DVLA gyda’r ffi trwydded yrru. Bydd y ffurflen adnewyddu D27W yn dweud wrthych a oes angen ichi anfon ffotograff pasbort steil newydd.
Os na fyddwch yn cael eich ffurflen adnewyddu drwy’r post, gallwch gael ffurflen D1W neu D2W gan Swyddfa’r Post sy’n cynnig gwasanaethau DVLA.
I adnewyddu eich trwydded am:
-
gar neu feic modur defnyddiwch ffurflen D1W
-
lori neu fws defnyddiwch ffurflen D2W
Ni allwch yrru nes bod eich cyfnod gwahardd wedi dod i ben.
Gyrwyr newydd
Mae’n rhaid ichi wneud cais am drwydded dros dro newydd ac ail-sefyll y ddwy ran o’ch prawf gyrru os caiff eich trwydded ei chanslo o fewn 2 flynedd i’w pasio nhw.
Os caiff eich trwydded ei chanslo gallwch wneud cais am un newydd ar unrhyw adeg. Gallwch gael D1W gan Swyddfa’r Post. Anfonwch hi a’r ffi i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Deiliaid trwydded yrru dros dro
Mae’n rhaid ichi ail-sefyll y ddwy ran o’ch prawf gyrru os caiff eich trwydded dros dro ei chanslo ar ôl ichi basio eich prawf, ond nid ydych wedi anfon am eich trwydded lawn eto. Gallwch ddefnyddio eich trwydded yrru dros dro bresennol i sefyll y profion.
Methu â rhoi eich trwydded i’r llys
Rhaid ichi wneud cais am drwydded newydd os yw eich trwydded yn annilys oherwydd na wnaethoch ei rhoi i’r llys i’w hardystio.
Cewch ffurflen D1W neu D2W gan Swyddfa’r Post. Anfonwch hi a’r ffi trwydded yrru i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
I adnewyddu eich trwydded am:
-
gar neu feic modur defnyddiwch ffurflen D1W
-
lori neu fws defnyddiwch ffurflen D2W
Gogledd Iwerddon
Cysylltwch â’r Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (DVA) os ydych yng Ngogledd Iwerddon.
Deiliaid trwyddedau o’r tu allan i Brydain Fawr
Bydd DVLA yn dychwelyd eich trwydded pan fydd eich cyfnod gwahardd yn dod i ben.