Gwahardd am yfed a gyrru

Gallwch gael eich gwahardd os cewch eich dyfarnu’n euog o yfed a gyrru. Yn dibynnu ar eich trosedd, gallwch hefyd gael dirwy neu gael eich anfon i’r carchar

Bydd angen ichi wneud cais am drwydded newydd ar ôl i’ch gwaharddiad ddod i ben.

Os cewch eich gwahardd rhag gyrru am 12 mis neu fwy, efallai y byddwch yn gallu lleihau eich gwaharddiad drwy ddilyn cwrs adsefydlu yfed a gyrru.

Troseddwyr risg uchel

Os ydych yn ‘droseddwr risg uchel’, ni fyddwch yn cael eich trwydded newydd hyd nes y gallwch brofi eich bod yn ffit i yrru eto. Bydd angen ichi basio archwiliad meddygol gydag un o feddygon penodedig DVLA.

Rydych yn droseddwr risg uchel os: 

  • roeddech wedi’ch cael yn euog o 2 drosedd yfed a gyrru o fewn 10 mlynedd

  • roeddech yn gyrru gyda darlleniad alcohol o o leiaf 87.5 microgram o alcohol fesul 100 mililitr (ml) o anadl, 200 miligram (mg) o alcohol fesul 100 ml o waed, neu 267.5 mg o alcohol fesul 100 ml o wrin

  • roeddech wedi gwrthod rhoi sampl o anadl, gwaed neu wrin i’r heddlu i brofi am alcohol

  • roeddech wedi gwrthod caniatáu i sampl o’ch gwaed gael ei brofi am alcohol (er enghraifft, os cafodd ei gymryd pan oeddech yn anymwybodol) 

Byddwch yn cael ffurflen adnewyddu D27PHW 90 diwrnod cyn i’ch gwaharddiad ddod i ben. Rhaid ichi lenwi’r ffurflen a’i hanfon i DVLA i ailymgeisio am eich trwydded. 

Archwiliad meddygol gyda meddyg DVLA

Unwaith y bydd DVLA yn derbyn eich cais am drwydded newydd, byddant yn anfon manylion y meddyg atoch er mwyn ichi allu gwneud apwyntiad.

Bydd rhaid ichi dalu am eich archwiliad.

Yn ystod yr arholiad, byddwch yn: 

  • llenwi holiadur am eich hanes meddygol a’ch defnydd o alcohol

  • cymryd rhan mewn archwiliad corfforol

  • cael prawf gwaed

Mae’r broses yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon.