Gwneud cais i leihau cyfnod eich gwaharddiad

Gallwch ofyn i’r llys leihau cyfnod eich gwaharddiad ar ôl ichi gael eich gwahardd rhag gyrru am:

  • 2 flynedd - os oedd y gwaharddiad am lai na 4 blynedd

  • hanner cyfnod yr gwaharddiad - os oedd am o leiaf 4 ond o dan 10 mlynedd

  • 5 mlynedd - os oedd y gwaharddiad am 10 mlynedd neu fwy

Rhaid bod gennych reswm da dros ofyn am leihau’r gwaharddiad. Er enghraifft, os ydych yn credu bod y llys wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol neu fod rhesymau y gwnaethoch gyflawni’r drosedd gyrru nad oedd y llys wedi’u hystyried. 

Ysgrifennwch i’r llys a’ch gwaharddodd gyda dyddiad y drosedd, dyddiad yr euogfarn ac unrhyw wybodaeth ategol arall.

Bydd y llys yn dweud wrth DVLA os bydd yn penderfynu lleihau cyfnod eich gwaharddiad. Os yw’n gwneud hynny, bydd angen ichi wneud cais am drwydded newydd.

Os bydd y llys yn gwrthod eich cais bydd rhaid ichi aros 3 mis cyn y gallwch ofyn eto.

Os caiff eich gwaharddiad ei leihau

Trwyddedau car neu feic modur

Gwnewch gais am drwydded newydd drwy anfon ffurflen D1W ‘Cais am drwydded yrru’ wedi’i chwblhau i DVLA, sydd ar gael o’r rhan fwyaf o Swyddfeydd Post. Rhaid ichi dalu ffi.  

Trwyddedau lori neu fws

Gwnewch gais am drwydded newydd drwy anfon ffurflen D2W ‘Cais am drwydded lori/bws’ wedi’i chwblhau i DVLA, sydd ar gael gan y gwasanaeth archebu ffurflenni DVLA. Rhaid ichi dalu ffi

Gogledd Iwerddon

Gwnewch gais i’r DVA i adnewyddu eich trwydded