Ffioedd trwydded yrru

Mae’r ffi yn dibynnu ar os ydych am:

  • gael eich trwydded Brydain Fawr lawn neu dros dro gyntaf
  • gael un amnewid os yw eich un chi ar goll, wedi’i dwyn, wedi’i difrodi neu wedi’i dinistrio
  • newid eich enw, cyfeiriad neu ffotograff
  • adnewyddu trwydded yrru
  • ychwanegu, adnewyddu neu ddileu hawl
  • cyfnewid trwydded yrru, er enghraifft cyfnewid trwydded bapur am un cerdyn-llun
  • cael eich trwydded yn ôl ar ôl iddi gael ei chymryd i ffwrdd, er enghraifft os ydych wedi cael eich gwahardd

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Am geisiadau drwy’r post, mae sieciau ac archebion post yn daladwy i DVLA. Mae’r cyfeiriad yn dibynnu ar yr hyn rydych yn gwneud cais amdano.

Ni dderbynnir sieciau sydd wedi cael eu difetha neu eu newid.

Cael eich trwydded yrru Prydain Fawr gyntaf

Gwneud cais ar-lein Gwneud cais drwy’r post
Trwydded dros dro gyntaf - car, beic modur, moped £34 £43
Trwydded yrru lawn gyntaf ar ôl pasio eich prawf gyrru Amh Am ddim - £17 i ddefnyddio ffotograff gwahanol i’ch trwydded dros dro
Cyfnewid trwydded Prydain Fawr lawn gyntaf am drwydded lawn o’r Gymuned Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu drwydded dramor ddynodedig arall Amh £43

Amnewid trwydded sydd ar goll, wedi’i dwyn, ei difrodi neu ei dinistrio

Mae hyn yn costio £20. Rhaid ichi amnewid eich trwydded yrru os yw  ar goll, wedi’i dwyn, ei difrodi neu ei dinistrio.

Newid yr enw, cyfeiriad neu ffotograff ar eich trwydded yrru cerdyn-llun

Mae’r ffi yn dibynnu ar yr hyn rydych yn ei newid a sut rydych yn ei wneud.

Beth rydych yn ei newid Newid ar-lein Newid drwy’r post
Cyfeiriad Am ddim Am ddim
Enw Amh Am ddim
Ffotograff £14 £17
Ffotograff ac enw ar yr un pryd Amh £17
Ffotograff a chyfeiriad ar yr un pryd £14 £17

Adnewyddu trwydded yrru

Mae trwyddedau cerdyn-llun yn ddilys am 10 mlynedd oni nodir yn wahanol. Byddwch yn cael nodyn atgoffa i adnewyddu eich ffotograff cyn i’ch trwydded bresennol ddod i ben.

Gwneud cais ar-lein Gwneud cais drwy’r post
Adnewyddu trwydded yrru sydd wedi dod i ben £14 £17
Adnewyddu oherwydd rydych yn 70 oed neu’n hŷn Am ddim Am ddim

Gallwch hefyd adnewyddu eich trwydded sydd wedi dod i ben mewn Swyddfa’r Post, mae’n costio £21.50.

Adnewyddu trwydded yrru feddygol cyfnod byr

Gallwch adnewyddu eich trwydded yrru feddygol cyfnod byr am ddim.

Gallwch adnewyddu ar-lein os oes gennych ddiabetes, epilepsi, clefyd Parkinson, nam ar eich golwg, cyflwr cwsg, neu gyflwr y galon.

Ychwanegu, adnewyddu neu ddileu hawl

Gwneud cais ar-lein Gwneud cais drwy’r post
Ychwanegu hawl i drwydded lawn neu dros dro - er enghraifft, i yrru bws neu lori Amh Am ddim
Adnewyddu hawl i yrru bws neu lori Amh Am ddim
Ildio hawl i yrru bws neu lori Amh Am ddim

Gallwch hefyd newid ffotograff ar yr un pryd. Mae’n costio £17.

Cyfnewid trwydded yrru bapur neu nad yw’n un Prydain Fawr

Beth rydych yn ei chyfnewid Gwneud cais ar-lein Gwneud cais drwy’r post
Trwydded bapur am drwydded cerdyn-llun gyda newid cyfeiriad Am ddim Am ddim
Trwydded bapur am drwydded cerdyn-llun gyda newid enw Amh Am ddim
Trwydded bapur am drwydded cerdyn-llun heb newid manylion £20 £20
Cyfnewid trwydded Gogledd Iwerddon lawn am drwydded Prydain Fawr Amh Am ddim
Trwydded lawn o’r Gymuned Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu drwydded dramor ddynodedig arall, os daliwyd trwydded Prydain Fawr flaenorol Amh Am ddim
Trwydded lawn o’r Gymuned Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu drwydded dramor ddynodedig arall, os na ddaliwyd trwydded Prydain Fawr flaenorol Amh £43

Cael eich trwydded yn ôl ar ôl iddi gael ei chymryd i ffwrdd

Mae’r ffi yn dibynnu ar pam y cafodd eich trwydded ei chymryd i ffwrdd a sut y cawsoch hi yn ôl.

Sut y cawsoch eich trwydded yn ôl Gwneud cais ar-lein Gwneud cais drwy’r post
Cawsoch eich gwahardd am unrhyw reswm heblaw am yfed a gyrru Amh £65
Cawsoch eich gwahardd am yfed a gyrru a bod angen ichi basio archwiliad meddygol gyda meddyg DVLA Amh £90
Cawsoch eich gwahardd am yfed a gyrru ac nad oes angen ichi basio archwiliad meddygol  Amh £65
Rydych wedi cael eich trwydded yn ôl ar ôl iddi gael ei diddymu o dan y Ddeddf Gyrwyr Newydd Amh £50
Rydych wedi cael eich trwydded yn ôl ar ôl iddi gael ei diddymu am beidio â’i rhoi i DVLA neu’r llys Amh Am ddim