Newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru

Sgipio cynnwys

Gwneud cais ar-lein

Newid y cyfeiriad ar naill ai:

  • eich trwydded yrru lawn
  • eich trwydded yrru dros dro

Ni chodir tâl i newid eich cyfeiriad gyda DVLA.

Gallwch barhau i yrru tra’ch bod yn aros am eich trwydded newydd.

Os ydych yn dymuno newid eich enw ar yr un pryd, bydd angen ichi wneud cais drwy’r post.

Mae’n rhaid ichi hefyd:

Gallwch gael dirwy i fyny at £1,000 os nad ydych yn rhoi gwybod i DVLA pan fydd eich cyfeiriad yn newid.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cyn ichi ddechrau

Mae arnoch angen:

Rhowch eich rhif trwydded yrru, rhif Yswiriant Gwladol a rhif pasbort os ydych yn eu gwybod.

Os ydych am newid eich ffotograff ar yr un pryd

Os yw eich trwydded yn ddilys am o leiaf 2 flynedd arall neu bydd rhaid ichi ei adnewyddu i newid eich ffotograff.

Os yw’n ddilys am lai na 2 flynedd, gallwch newid eich ffotograff pan fyddwch yn diweddaru’ch cyfeiriad.

Gallwch naill ai:

  • ddewis defnyddio’r un ffotograff â’ch pasbort
  • anfon ffotograff math pasbort diweddar - byddwch yn derbyn llythyr yn dweud wrthych sut i’w hanfon ar ôl ichi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Y gost yw £14. Gallwch dalu drwy gerdyn credyd neu ddebyd MasterCard, Visa, Electron neu Delta. Nid oes ffi os ydych dros 70 neu os oes gennych drwydded cyfnod byr meddygol.

Os ydych yn symud dramor

Ni allwch gofrestru eich cyfeiriad newydd ar eich trwydded yrru Brydeinig. Cysylltwch â’r awdurdod trwyddedau gyrru yn eich gwlad breswyl newydd.

Beth sy’n digwydd nesaf

Byddwch yn cael e-bost o DVLA yn cadarnhau ar ôl ichi wneud cais. Mae’n bosib y byddwch yn cael eich gofyn i gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.