Newid y cyfeiriad ar eich trwydded yrru

Sgipio cynnwys

Gwneud cais drwy’r post

Gallwch hefyd newid eich cyfeiriad ar eich trwydded drwy’r post. Mae’r broses yn wahanol yn ddibynnol os oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun neu bapur.

Bydd eich trwydded yrru fel arfer yn cyrraedd o fewn 3 wythnos. Gallai gymryd yn hirach os bydd angen i DVLA wirio eich hunaniaeth neu’ch manylion meddygol. Cysylltwch â DVLA os nad yw wedi cyrraedd o fewn 3 wythnos.

Mae’n rhaid ichi hefyd:

Gallwch gael dirwy i fyny at £1,000 os nad ydych yn rhoi gwybod i DVLA pan fydd eich cyfeiriad yn newid.

Trwydded yrru cerdyn-llun

Cwblhewch yr adran ‘newidiadau’ ar y llythyr D741W a ddaeth gyda’ch trwydded.

Wedyn anfonwch y drwydded yrru cerdyn-llun ynghyd â’r llythyr i DVLA.

DVLA
Abertawe
SA99 1BN

Os nad oes gennych eich D741W, defnyddiwch ffurflen gais trwydded yrru D1W ar gyfer ceir a beiciau modur neu D2W ar gyfer lorïau a bysiau - gallwch gael y rhain yn y mwyafrif o Swyddfeydd Post.

Os ydych chi am newid eich ffotograff ar yr un pryd, cwblhewch D1W ‘cais am drwydded yrru’, sydd ar gael yn y mwyafrif o Swyddfeydd Post. Bydd hefyd angen ichi anfon:

  • ffotograff math pasbort diweddar wedi’i argraffu yn ddiweddar
  • siec neu archeb bost am £17, yn daladwy i DVLA (nid oes ffi os ydych dros 70 neu fod gennych drwydded cyfnod byr meddygol)

Ni dderbynnir sieciau sydd wedi cael eu difetha neu eu newid.

Os ydych chi am newid eich enw ar yr un pryd, cwblhewch D1W ‘cais am drwydded yrru’, sydd ar gael yn y mwyafrif o Swyddfeydd Post.

Bydd hefyd angen ichi anfon dogfennau gwreiddiol yn eich enw newydd.

Trwydded yrru bapur

Anfonwch y canlynol i DVLA:

  • ffurflen D1W ‘Cais am drwydded yrru’ wedi ei chwblhau am drwyddedau car a beic modur, neu ffurflen D2W ‘Cais am drwydded yrru lori/bws’ wedi’i chwblhau am drwyddedau lori a bws, sydd ar gael yn y mwyafrif o Swyddfeydd Post
  • eich trwydded yrru
  • dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau eich hunaniaeth
  • ffotograff pasbort