Gwneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntaf

Cael eich trwydded yrru dros dro gyntaf am gar, beic modur, moped neu gerbyd arall wrth DVLA ar-lein. I wneud cais mae’n rhaid ichi:

Mae’n costio £34 pan rydych yn gwneud cais ar-lein.

Os gwnaethoch gais am drwydded yrru dros dro cyn 1 Mawrth 1973 bydd angen ichi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gael trwydded newydd.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd arnoch angen:

  • dogfen adnabod, fel eich pasbort
  • cyfeiriadau lle rydych wedi byw am hyd at y 3 blynedd diwethaf

Efallai y gofynnir ichi am wybodaeth ychwanegol, fel eich rhif Yswiriant Gwladol os ydych yn ei wybod.

Byddwch yn cael e-bost cadarnhau wrth DVLA ar ôl ichi wneud cais.

Dylai eich trwydded gyrraedd o fewn un wythnos os ydych yn gwneud cais ar-lein. Gall gymryd yn hirach os oes angen i DVLA wneud gwiriadau ychwanegol.

Y gost

Mae’n costio £34 i wneud cais ar-lein. Gallwch dalu drwy gerdyn debyd neu gredyd MasterCard, Visa, Electron neu Delta.

Pryd rydych chi’n gallu gyrru â thrwydded dros dro

Mae rheolau gwahanol gan ddibynnu ar eich oed a’r math o gerbyd. Gwirio pa gerbydau rydych chi’n gallu eu gyrru a phryd cyn ichi ddechrau dysgu.

Os oes gennych drwydded dros dro yn barod

Os oes gennych drwydded dros dro yn barod, gallwch:

Gwneud cais drwy’r post

Llenwch ffurflen D1W ‘Cais am drwydded yrru’, sydd ar gael o’r rhan fwyaf o Swyddfeydd Post.

Anfonwch eich cais i’r cyfeiriad ar y ffurflen, ynghyd â siec neu archeb bost am £43.