Newidiadau i'ch enw a'ch cyfeiriad tra'ch bod wedi'ch gwahardd

Dywedwch wrth DVLA os byddwch yn newid eich enw neu gyfeiriad tra’ch bod wedi’ch gwahardd.

Ysgrifennwch gyda manylion eich cyfeiriad hen a newydd, eich enw os yw wedi newid, rhif eich trwydded yrru (os yw’n hysbys) a’ch dyddiad geni.

DVLA 
Abertawe 
SA99 1AB

Mae proses wahanol yng Ngogledd Iwerddon