Trosolwg

Gallwch gael eich gwahardd rhag gyrru os ydych naill ai:

Byddwch yn cael gwŷs yn y post sy’n dweud wrthych pryd y mae’n rhaid ichi fynd i’r llys.

Mae rhai rheolau gwahardd yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Pa mor hir y bydd gwaharddiad gyrru yn parhau

Bydd y llys yn penderfynu pa mor hir y bydd y gwaharddiad yn parhau, yn seiliedig ar ba mor ddifrifol yw’r drosedd yn eu barn nhw.

Gallwch gael eich gwahardd rhag gyrru os oes gennych eisoes 12 pwynt cosb neu fwy ar eich trwydded. Gall eich gwaharddiad barhau am:

  • 6 mis, os byddwch yn cael 12 pwynt cosb neu fwy o fewn 3 blynedd

  • 12 mis, os byddwch yn cael ail waharddiad o fewn 3 blynedd

  • 2 flynedd, os byddwch yn cael trydydd gwaharddiad o fewn 3 blynedd

Wedi’ch gwahardd am 56 diwrnod neu fwy

Os ydych wedi’ch gwahardd am 56 diwrnod neu fwy mae’n rhaid ichi wneud cais am drwydded newydd cyn gyrru eto.

Efallai y bydd rhaid ichi hefyd ailsefyll eich prawf gyrru neu sefyll prawf gyrru estynedig cyn cael eich trwydded lawn. Bydd y llys yn dweud wrthych os oes rhaid ichi wneud hyn.

Wedi’ch gwahardd am lai na 56 diwrnod

Gweld eich cofnod trwydded yrru ar-lein i wirio’r gwaharddiad. Ni allwch yrru nes iddo ddod i ben.

Nid oes angen ichi wneud cais am drwydded newydd cyn y gallwch yrru eto.

Gwaharddiad y tu allan i Brydain Fawr

Ni allwch yrru yng Ngogledd Iwerddon ac Ynys Manaw os ydych wedi cael eich gwahardd rhag gyrru ar eich trwydded yrru Prydain Fawr.

Gelwir hyn yn ‘cyd-gydnabyddiaeth o wahardd’. Mae gyrwyr sydd wedi’u gwahardd o Ogledd Iwerddon ac Ynys Manaw hefyd wedi’u gwahardd rhag gyrru ym Mhrydain Fawr.