Gwaharddiadau gyrru
Gwirio pryd fydd eich gwaharddiad yn dod i ben
Gallwch ddod o hyd i’r dyddiad y daw eich gwaharddiad gyrru i ben:
-
ar y ffurflen atgoffa D27W y bydd DVLA yn ei hanfon atoch 56 diwrnod cyn i’ch gwaharddiad ddod i ben
-
ar y llythyr D27PHW a gyhoeddwyd 90 diwrnod cyn i rai gwaharddiadau sy’n ymwneud ag alcohol ddod i ben
-
drwy gysylltu â DVLA (os ydych yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â DVA)