Optio allan o rybuddion argyfwng
Gallwch optio allan o rybuddion argyfwng, ond dylech eu cadw ymlaen er eich diogelwch eich hun. Os byddwch chi'n dal i dderbyn rhybuddion ar ôl optio allan, cysylltwch â gwneuthurwr eich dyfais i gael cymorth.
Ffonau iPhone ac Android
I optio allan:
- Chwiliwch am ‘rybuddion argyfwng’ yn eich gosodiadau.
- Diffoddwch ‘rybuddion difrifol’ a ‘rhybuddion eithafol’.
Ffonau symudol eraill
Yn dibynnu ar fersiwn gwneuthurwr a meddalwedd eich ffôn, gellir galw gosodiadau rhybuddion brys yn enwau gwahanol, megis ‘rhybuddion argyfwng diwifr’ neu ‘ddarllediadau argyfwng’.
Gellir dod o hyd i’r gosodiadau fel arfer mewn un o’r ffyrdd canlynol. Ewch i:
- ‘neges’, wedyn ‘gosodiadau negeseuon’, wedyn ‘rhybuddion argyfwng diwifr’, wedyn ‘rhybudd’
- ‘gosodiadau’, wedyn ‘synau’, yna ‘uwch’, yna ‘darllediadau argyfwng’
- ‘gosodiadau’, wedyn ‘gosodiadau cyffredinol’, wedyn ‘rhybuddion argyfwng’
Diffoddwch ‘rhybuddion difrifol’, ‘rhybuddion eithafol’ a ‘rhybuddion prawf’.