Budd-dal Plant pan fo’ch plentyn yn troi’n 16 oed
Mae’ch Budd-dal Plant yn dod i ben ar 31 Awst ar neu ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 16 oed os yw’n gadael addysg neu hyfforddiant.
Mae Budd-dal Plant parhau os yw’ch plentyn yn parhau ag addysg neu hyfforddiant cymeradwy, ond mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Cewch lythyr yn ystod blwyddyn olaf eich plentyn yn yr ysgol, a fydd yn gofyn i chi gadarnhau ei gynlluniau.
Dim ond y person sy’n hawlio’r Budd-dal Plant sy’n gallu rhoi gwybod i CThEF ynghylch newidiadau i gynlluniau ei blentyn.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Addysg gymeradwy
Mae’n rhaid i’r addysg fod yn amser llawn (mwy na 12 awr bob wythnos, ar gyfartaledd, o astudio dan oruchwyliaeth neu brofiad gwaith sy’n ymwneud â’r cwrs). Gall y rhain gynnwys:
-
Lefelau A neu debyg – er enghraifft Pre-U, y Fagloriaeth Ryngwladol
-
Lefelau T
-
Scottish Highers
-
NVQs a’r rhan fwyaf o gymwysterau galwedigaethol hyd at lefel 3 – heb gynnwys uwch brentisiaethau
-
addysg yn y cartref – os y’i dechreuwyd cyn i’ch plentyn droi’n 16 oed neu ar ôl iddo droi’n 16 oed os oes ganddo anghenion addysgol arbennig ac anableddau (yn agor tudalen Saesneg)
-
hyfforddeiaethau yn Lloegr
Mae’n rhaid i’ch plentyn gael ei dderbyn ar y cwrs cyn iddo droi’n 19 oed.
Ni allwch gael Budd-dal Plant os yw’ch plentyn yn astudio cwrs ‘uwch’, fel gradd prifysgol neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC, neu os bydd cyflogwr yn talu am y cwrs.
Os yw’ch plentyn yn aros mewn addysg cymeradwy
Os yw’ch plentyn yn 16 neu 17 ac yn parhau ag addysg gymeradwy, rhowch wybod i CThEF gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
Bydd angen eich ID Defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych gyfrif personol ar gyfer Porth y Llywodraeth, gallwch greu un.
Os yw’ch plentyn rhwng 18 a 20 ac yn parhau ag addysg gymeradwy, rhowch wybod i CThEF gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein CH297.
Os yw’ch plentyn yn gadael addysg gymeradwy
Rhowch wybod i CThEF os yw’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy gan ddefnyddio ffurflen CH459 ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).
Hyfforddiant cymeradwy
Dylai hyfforddiant cymeradwy fod yn ddi-dâl a gall gynnwys y canlynol:
-
yng Nghymru: Prentisiaethau Sylfaenol, Hyfforddeiaethau neu gynllun Twf Swyddi Cymru+
-
yn yr Alban: rhaglen No One Left Behind
-
yng Ngogledd Iwerddon: PEACE IV Children and Young People 2.1, Training for Success neu Skills for Life and Work
Nid yw cyrsiau sy’n rhan o gontract gwaith yn gymeradwy.
Os yw’ch plentyn yn aros mewn hyfforddiant cymeradwy
Rhowch wybod i CThEF os yw’ch plentyn yn parhau ag addysg neu hyfforddiant cymeradwy gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein CH297.
Os yw’ch plentyn yn gadael hyfforddiant cymeradwy
Rhowch wybod i CThEF os yw’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein CH459 (yn agor tudalen Saesneg).
Seibiannau dros dro
Cysylltwch â CThEF am seibiannau yn addysg neu hyfforddiant eich plentyn – e.e. os yw’n newid coleg. Efallai y cewch Fudd-dal Plant yn ystod y seibiant.
Pan fo addysg neu hyfforddiant cymeradwy yn dod i ben
Pan fo’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy, bydd taliadau’n dod i ben ar ddiwedd mis Chwefror, 31 Mai, 31 Awst neu 30 Tachwedd (p’un bynnag ddaw gyntaf).
Gwneud cais am estyniad
Mae’n bosibl y gallech gael Budd-dal Plant am 20 wythnos (a elwir yn ‘estyniad’) os yw’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy a’i fod naill ai’n:
-
cofrestru â’i wasanaeth gyrfaoedd lleol, Connexions (neu sefydliad tebyg yng Ngogledd Iwerddon, yr Undeb Ewropeaidd (yn agor tudalen Saesneg), Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein), neu’n
-
ymuno â’r lluoedd arfog
Gallwch wneud un o’r canlynol:
-
gwneud cais am yr estyniad ar-lein (yn agor tudalen Saesneg)
-
cysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i wneud cais am estyniad
I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’ch plentyn fodloni’r canlynol:
-
bod yn 16 neu 17 oed
-
gweithio llai na 24 awr yr wythnos
-
peidio â chael budd-daliadau penodol (er enghraifft Cymhorthdal Incwm)
Mae’n rhaid i chi fod wedi bod â hawl i Fudd-dal Plant yn union cyn i’r plentyn adael yr addysg neu’r hyfforddiant cymeradwy a rhaid gwneud cais amdano cyn pen 3 mis ar ôl iddo adael.
Dulliau eraill o roi gwybod i ni
Cysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i roi gwybod am gynlluniau neu newidiadau.