Trosolwg

Gallwch gael gwybodaeth am eiddo neu dir cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, hyd yn oed os nad ydych yn berchen arno.

Mae’r math o wybodaeth y gallwch ei chael yn cynnwys y:

  • cofrestr teitl – pwy sy’n berchen ar yr eiddo neu’r tir, ac unrhyw hawliau tramwy

  • rhif teitl – y rhif unigryw a roddir i eiddo neu ddarn o dir

  • cynllun teitl – lleoliad a therfynau’r eiddo neu’r tir

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Chwilio’r gofrestr tir ac eiddo

Mae copïau o’r gofrestr teitl a’r cynllun teitl ar gael trwy chwilio’r gofrestr.

Chwilio’r map mynegai tir ac eiddo

Gofynnwch am chwiliad o’r map mynegai os nad yw eiddo’n cael ei ganfod trwy chwilio’r gofrestr.

Cael copi o’r gweithredoedd

Efallai gallwch gael gwybodaeth gyfredol a blaenorol am eiddo cofrestredig, er enghraifft y perchnogion blaenorol, trwy wneud cais am gopi o’r gweithredoedd.

Chwilio prisiau eiddo

Mae gwybodaeth am brisiau eiddo ar gael trwy chwilio’r mynegai prisiau tai a’r gwasanaeth data pris a dalwyd.