Cael gwybodaeth am eiddo a thir

Skip contents

Cael copi o’r gweithredoedd

Efallai y gallwch gael gwybodaeth gyfredol a blaenorol am eiddo cofrestredig, er enghraifft y perchnogion blaenorol, yn y gweithredoedd.

Efallai bydd y gofrestr yn rhoi rhagor o fanylion am hawliau dros dir cyffiniol.

Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn cadw gweithredoedd papur gwreiddiol.

Sut i ofyn am gopi o’r gweithredoedd

  1. Darganfod a yw’r eiddo neu’r tir yn gofrestredig.

  2. Talu £3 i lawrlwytho copi o’r gofrestr teitl. Os yw’r gweithredoedd wedi eu nodi fel rhai ‘wedi eu ffeilio’ yn y gofrestr, mae gan Gofrestrfa Tir EF gopi wedi ei sganio.

  3. Llenwi’r ffurflen gais am weithredoedd gan ddefnyddio rhif teitl yr eiddo o’r gofrestr teitl.

Efallai na fydd unrhyw ganlyniadau i’ch chwiliad os nad oes copi o’r gweithredoedd gan Gofrestrfa Tir EF.

Gallai’r gweithredoedd gynnwys sawl dogfen. Codir £7 ar gyfer pob dogfen.

Anfonwch eich ffurflen wedi ei llenwi a’ch taliad i Gofrestrfa Tir EF.

HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Ni ellir defnyddio copïau o weithredoedd i brofi perchnogaeth, er enghraifft mewn achos llys. Dylech gael copïau swyddogol o’r gofrestr teitl yn lle hynny.

Os ydych yn fusnes

Cofrestrwch ar gyfer e-wasanaethau busnes os ydych yn fusnes sy’n gorfod rheoli chwiliadau lluosog a lawrlwythwch gopïau lluosog o ddogfennau.